Author Archives: Lowri Griffiths

GWIRFODDOLWYR YN LANSIO MARCHNAD BWYD PRISIAU ISEL YN Y SBLOT

Bydd stondin marchnad cydweithredol bwyd wythnosol a lansiodd yn y Sblot yr wythnos hon yn galluogi preswylwyr i brynu cynhyrchion cartref a bwyd heb blastig yn bennaf am brisiau isel. Grŵp ymreolaethol o gymdogion o’r Sblot, Waunadda a Thremorfa yw’r Splo-Down Food Cooperative sydd wedi dod ynghyd i ddiwallu eu hanghenion bwyd eu hunain ar […]

Posted in Clybiau a Chymdeithasau, Cymuned, Dan Sylw, Digwyddiadau, Newyddion, Prosiectau | Tagged , , , , , , , , | Leave a comment

TRYDAR YN NHREMORFA: YR AWR WYLLT SY’N YSGUBO CAERDYDD BOB WYTHNOS

Ers ei lansio ym mis Mehefin 2019, bob dydd Mawrth rhwng 7-8pm ar Twitter, mae #WildCardiffHour wedi gwahodd preswylwyr o bob rhan o Gaerdydd i rannu eu lluniau a’u straeon o’r mannau gwyrdd maen nhw wedi ymweld â nhw, a’r natur maen nhw wedi’i gweld. Wedi’i sefydlu’n wreiddiol gyda chefnogaeth UpRising Cymru yn 2019, nod […]

Posted in Dan Sylw, Digwyddiadau, Newyddion | Tagged , , , , , , | Leave a comment

Ystadegau Covid Caerdydd Ar Gyfer Y Saith Diwrnod Diwethaf Mewn Perthynas â’r Sblot, Waunadda A Thremorfa

Bob dydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am ganlyniadau positif profion Covid-19 yng Nghymru.  Mae’r wefan yn caniatáu ichi chwilio am wybodaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol ac mae yna fap defnyddiol sy’n dangos achosion mewn wardiau unigol dros gyfnod treigl 21 diwrnod a saith diwrnod. Es i ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru […]

Posted in Dan Sylw, Newyddion | Tagged , , , , , | Leave a comment

CYNGOR CAERDYDD YN ADDO STRYDOEDD GLANACH

Bydd Caerdydd yn elwa o strydoedd glanach o dan gynlluniau newydd i newid y ffordd y cesglir gwastraff a deunyddiau ailgylchadwy ar draws y ddinas. O dan y drefn newydd bydd y Cyngor yn mabwysiadu model casglu un sifft pedwar diwrnod yr wythnos. Bydd hyn yn galluogi casgliadau rhwng 6am a 3.45pm ar ddyddiau Mawrth, […]

Posted in Dan Sylw, Newyddion | Tagged , , , , | Leave a comment

PRESWYLWYR YN GALW AM WELLIANNAU DIOGELWCH AR Y DAITH I’R YSGOL

Pan symudodd Ysgol Glan Morfa o ardal dawel Stryd Hinton i’r prysur Ffordd Lewis, sicrhawyd rhieni y byddai mesurau teithio gweithredol a diogelwch traffig ffyrdd yn cael eu rhoi ar waith. Gosodwyd tair croesfan sebra newydd ac ardaloedd zig-zag dim parcio, ond mae rhieni’n poeni bod pobl yn torri’r rheolau ac yn rhoi teuluoedd mewn […]

Posted in Dan Sylw, Newyddion | Leave a comment

RHODDI PLANHIGION YR HYDREF AM DDIM I DRIGOLION Y SBLOT, WAUNADDA A THREMORFA

Mae’r mudiad lleol y Wiwer Werdd wedi ymuno â phlanhigfa Parc Bute i roddi planhigion yr hydref fel rhan o Ŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd ledled y ddinas. Ddydd Sadwrn 17 o Hydref, rhwng 10.30am a 12.30pm, byddant yn dosbarthu planhigion llysiau’r hydref a’r gaeaf am ddim ac yn eich helpu i barhau i dyfu […]

Posted in Cymuned, Dan Sylw, Newyddion, Prosiectau | Tagged , , , , | Leave a comment

CYLCHGRAWN FFUGLEN WYDDONOL A FFANTASI CYNTAF CYMRU YN CAEL EI GYNHYRCHU YMA YN Y SBLOT!

Wel, am gyffrous! Mae cylchgrawn ffuglen wyddonol a llenyddiaeth ffantasi cyntaf Cymru, a’r unig un hyd yn hyn, Gwyllion, newydd lansio, ac mae’n cael ei gynhyrchu yma yn y Sblot!  Cyhoeddir dau rifyn o Gwyllion ar-lein bob blwyddyn ynghyd â nifer gyfyngedig o gopïau papur. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf erioed ar 1 Medi a gellir […]

Posted in Busnes, Celf a'r Celfyddydau, Dan Sylw, Di-gategori, Newyddion | Leave a comment

BENTHYG YN DOD I’R SBLOT!

Agorodd Benthyg, llyfrgell pethau Cymru, ail gangen yn Hen Lyfrgell y Sblot ar 26 Medi. Mae gan Benthyg bron i 400 o eitemau i’w aelodau eu benthyca am gost isel, gan gynnwys golchwr pwysedd, gasebos, offer gwersylla, offer cynnal a chadw a garddio. Mae pobl yn gallu rhoddi eitemau di-eisiau a benthyca eitemau maen nhw […]

Posted in Cymuned, Dan Sylw, Newyddion, Prosiectau | Tagged , , , , | Leave a comment

YSGOL KARATE SHOTOKAN TRADDODIADOL YN DOD I’R SBLOT YM MIS MEDI

Dysgwch karate o £4 y wers wrth i dojo newydd agor yn Hen Lyfrgell y Sblot ym mis Medi (mae’r dosbarth cyntaf am ddim!). Cynhelir y dosbarthiadau ar ddydd Mawrth a phob yn ail ddydd Sadwrn. Mae tystiolaeth bod Karate yn helpu i wella ffitrwydd, hyblygrwydd a hunanhyder, yn lleihau straen ac yn eich dysgu […]

Posted in Busnes, Dan Sylw, Di-gategori, Digwyddiadau, Hamdden, Newyddion | Tagged , , | Leave a comment
Inksplott