Dan Sylw

Bagiau bin du yn dod n’ôl (ac ni fyddant am ddim)

Bydd bagiau streipiau coch yn dod i ben wrth i Gyngor Caerdydd wneud newidiadau i gasgliadau gwastraff cyffredinol

​Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud newidiadau i’r ffordd y mae eiddo sy’n defnyddio bagiau streipiau coch yn rhoi eu gwastraff cyffredinol allan i’w gasglu. Os oedd eich eiddo’n defnyddio bagiau streipiau coch yn flaenorol, bydd angen i chi ddefnyddio bagiau du nawr. ​

Ni fydd eiddo sy’n defnyddio biniau olwynion du yn cael eu heffeithio gan y newid hwn.

Yn ôl y cyhoeddiad ar wefan Cyngor Caerdydd, ac mewn llythyr at drigolion, mae hyn yn seiliedig ar adborth sy’n dweud y gall bagiau streipiau coch fod yn anodd i’w defnyddio ac y gall fod yn anodd cael gafael arnynt, yn enwedig os ydych chi’n byw mewn aelwyd a rennir, neu newydd symud i eiddo.

Bydd y newidiadau hefyd yn arbed £50,000 a fydd yn cael ei ddefnyddio i ehangu gwasanaethau ailgylchu ar draws y Ddinas.

O 1 Gorffennaf​, gallwch roi hyd at 3 bag du allan ar eich dyddiad casglu gwastraff cyffredinol.

Os oes gennych fagiau streipiau coch yn eich eiddo o hyd, gallwch ddefnyddio’r rhain. Yna symudwch i fagiau du pan fyddant wedi rhedeg allan. 

Ni fyddwn yn dosbarthu bagiau streipiau coch mwyach. Bydd angen i chi brynu eich bagiau du eich hun i’w defnyddio.  Rhaid i’r rhain fod yn fagiau maint safonol (tua 60 litr).

Peidiwch â defnyddio bagiau siopa, na bag o unrhyw liw arall.

Dylech roi eich bagiau du y tu allan i’ch eiddo eich hun i’w casglu. 

Gall defnyddio bagiau ailgylchu gwyrdd yn anghywir arwain at gyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig.

Rhoi mwy na 3 bag allan

Dim ond 3 bag y gall y rhan fwyaf o aelwydydd eu rhoi allan fesul casgliad.

Rhaid i chi beidio â rhoi mwy na 3 bag allan fesul casgliad, oni bai eich bod eisoes wedi cael cymeradwyaeth i roi mwy allan. 

Bydd y llythyr yr ydym wedi’i anfon atoch yn rhoi gwybod i chi faint o fagiau y gallwch eu rhoi allan. Bydd ein criwiau casglu yn gwybod a ydych wedi’ch cymeradwyo i roi mwy na 3 bag allan. 

Byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth neu dŷ wedi’i droi’n fflatiau

Bydd ein criwiau casglu yn gwybod a yw eich eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth cofrestredig, neu a yw eich tŷ wedi’i droi’n fflatiau.  Bydd ein criwiau casglu yn gwybod i gasglu mwy na 3 bag o’r tu allan i’ch eiddo. 

Inksplott