Dan Sylw

Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol o 7 Medi ymlaen

Mae Cyngor Caerdydd yn cynghori trigolion i edrych ar wefan y cyngor – www.caerdydd.gov.uk/gwastraffgardd  -neu app Cardiff Gov, i gael gwybod pryd y bydd eu gwastraff gardd yn cael ei gasglu ym mhob ardal y ddinas.

Yn ogystal â’r casgliadau gwastraff gardd misol wrth ymyl y ffordd, gellir parhau i ddod â gwastraff gardd i’n canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer, drwy gadw slot drwy wefan y cyngor –  www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu.

Bydd y ddarpariaeth ychwanegol i drigolion ddod â’u gwastraff gardd i’r canolfannau ailgylchu hefyd yn parhau nes y clywir yn wahanol, ac mae’n cynnwys:

  • Cynyddu’r lwfans blynyddol ar gyfer ymweliadau i 30 fesul aelwyd yn hytrach na 26
  • Cynyddu’r slotiau sydd ar gael fesul diwrnod o 400 i 570 (i fyny 42.5%);
  • Caniatáu i aelwydydd gadw slot, ac ymweld ar yr un diwrnod lle mae slotiau ar gael
  • Caniatáu i aelwydydd ymweld hyd at 3 gwaith y dydd (mae hyn wedi’i gyfyngu i 1 ar hyn o bryd) a:
  • Cynyddu ein hamseroedd agor, gyda’r slotiau olaf sydd ar gael ar gyfer gollwng am 5.30pm.

Mae’r trefniadau hyn ar waith ar gyfer pawb sy’n ymweld â’r canolfannau ailgylchu mewn car a chynghorir trigolion bod angen iddynt ddod â’u cadarnhad cadw slot, ynghyd â phrawf eu bod yn preswylio yn Nghaerdydd, megis trwydded yrru, a’i gyflwyno i staff wrth gyrraedd y safle.

O ystyried bod achosion Covid yng Nghymru yn cynyddu unwaith eto, bydd y cyngor yn parhau i fonitro’r sefyllfa a rhoi gwybod i drigolion am unrhyw newidiadau i amserlenni casglu maes o law.

Inksplott