Dan Sylw

Casgliadau gwastraff gardd yn cael eu casglu’n misol ym mis Hydref a Tachwedd

Wrth i’r hydref ddechrau, bydd casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd yn cael eu casglu bob mis o 4 Hydref tan 25 Tachwedd gan roi dau gasgliad gwastraff gardd arall i drigolion cyn i’r gwasanaeth gael ei atal yn ystod mis Rhagfyr, mis Ionawr a mis Chwefror.

Mae ffigyrau’n dangos bod swm y gwastraff gardd sy’n cael ei gasglu o gartrefi trigolion yn gostwng 80% dros y gaeaf. O ystyried y gostyngiad sylweddol hwn, bydd criwiau casglu gwastraff yn canolbwyntio ar gasglu gwastraff bwyd, gwastraff bagiau du ac ailgylchu sy’n cynyddu’n sylweddol wrth i ni nesáu at dymor y Nadolig, wrth i bobl dreulio mwy o amser gartref.

Bydd casgliadau untro yn cael eu trefnu yn ystod tymor yr ŵyl i symud coed Nadolig o gartrefi trigolion, gyda digwyddiadau sgubo’r stryd cymunedol a’r tîm glanhau dail sy’n cwympo’n parhau i weithredu dros fisoedd y gaeaf.

Drwy gydol y gaeaf, gall trigolion barhau i fynd â’u gwastraff gardd i  ganolfannau ailgylchu Ffordd Lamby a Chlos Bessemer drwy drefnu apwyntiad ar-lein https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/Pages/default.aspx neu drwy App Cardiff Gov.

Mae calendrau casgliadau ar wefan y Cyngor ac ar App Cardiff Gov yn cael eu diweddaru a hoffai’r Cyngor ddiolch i drigolion am eu hamynedd wrth i hyn gael ei wneud.

Bydd gwastraff gardd ymyl y ffordd yn cael ei gasglu yn Sblot ac Adamsdown ddydd Iau 27 Hydref a dydd Iau a dydd Iau 24 Tachwedd.

Inksplott