Dan Sylw

Cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland

Gallai cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland yn y Sblot, gael eu datblygu yn fuan yn dilyn argymhellion i Gabinet Cyngor Caerdydd i ryddhau cyllid er mwyn dechrau ar y cynllun yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Ym mis Gorffennaf 2022, cytunodd y Cabinet i sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 20 lle yn Ysgol Gynradd Moorland ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth. Mae hyn yn rhan o raglen sylweddol ar draws y ddinas i ehangu’r ddarpariaeth gan fwy na 270 leoedd, gwella safon y cyfleusterau a helpu i ateb y galw am leoedd ysgol arbennig ar gyfer dysgwyr oedran cynradd ac uwchradd ledled Caerdydd.

Byddai ailddatblygu’r ysgol hefyd yn caniatáu am Uned Blynyddoedd Cynnar newydd, gan fod wir angen diweddaru’r un bresennol ynghyd â darpariaeth Dechrau’n Deg newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidogion ar gyfer cyfraniad Dechrau’n Deg uwch gan Lywodraeth Cymru.

Byddai’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg yn cynyddu o 32 i 44 o leoedd gydag 8 lle gofal plant i blant 3 a 4 oed a byddai’n galluogi plant i symud o’r safle presennol yn Ysgol Uwchradd Willows sydd i’w hadleoli a’i hailadeiladu ar dir oddi ar Heol Lewis yn 2025.

Byddai gwaith arall fel rhan o ddatblygiad Ysgol Gynradd Moorland yn cynnwys;

  • Darparu crèche ac ystafell gymunedol i rieni a’r gymuned eu defnyddio
  • Dymchwel tŷ’r gofalwr

Os ceir cymeradwyaeth, byddwn yn osgoi oedi ar weithredu darpariaeth CAA a gallwn fwrw ymlaen gyda mynd i’r afael â chyflwr ystâd bresennol yr ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i fodloni gofynion dysgu’r 21ainganrif.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:

“Byddai ailddatblygu Ysgol Gynradd Moorland yn cyflwyno cyfoeth o gyfleoedd cyffrous i’r ysgol ac yn helpu i fodloni anghenion ei chymuned.

“Gallai’r cynllun fod yn fuddsoddiad sylweddol yn ardal y Sblot, a byddai’n cyflwyno campws gwirioneddol gymunedol. Byddai uned blynyddoedd cynnar newydd yn mynd i’r afael â phroblemau addasrwydd y ddarpariaeth bresennol a byddai safle Dechrau’n Deg newydd yn darparu cyfleusterau buddiol i’r gymuned fel ystafell gymunedol ar gyfer cyrsiau rhianta a chyfleuster crèche, hefyd i’r ysgol a’r gymuned eu defnyddio y tu allan i oriau.”

“Yn ogystal, fel un o sawl cynllun i helpu trawsnewid y ddarpariaeth o addysg anghenion dysgu arbennig ac ychwanegol yng Nghaerdydd, byddai Ysgol Gynradd Moorland yn rhoi hwb i amgylchedd dysgu modern o’r radd flaenaf, fydd nid yn unig yn helpu i fynd i’r afael â diffyg lleoedd ond hefyd yn helpu i ledaenu’r cyfleusterau ar draws y ddinas.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod yr adroddiad ar Ysgol Gynradd Moorland yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir o 2pm Ddydd Iau, 15 Rhagfyr. Bydd agenda, adroddiadau a phapurau’r cyfarfod ar gael i’w gweld yn agosach at y dyddiad yma: Agenda’r Cabinet ddydd Iau, 15 Rhagfyr, 2022, 2.00 pm: Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk) lle gallwch hefyd weld ffrwd fyw o’r cyfarfod ar y diwrnod.

Crëwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion gan y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc. Maent wedi ystyried y cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland yn anffurfiol a bydd yr allbwn o’r cyfarfod hwnnw yn cael ei drafod yn y pwyllgor ffurfiol pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr.

Mae papurau’r Pwyllgor Craffu wedi’u cyhoeddi ar yr adroddiad ar gael i’w gweld yma Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, dydd Mawrth, 13 Rhagfyr, 2022, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)

Inksplott