Cymuned

GWIRFODDOLWYR YN LANSIO MARCHNAD BWYD PRISIAU ISEL YN Y SBLOT

Bydd stondin marchnad cydweithredol bwyd wythnosol a lansiodd yn y Sblot yr wythnos hon yn galluogi preswylwyr i brynu cynhyrchion cartref a bwyd heb blastig yn bennaf am brisiau isel.

Grŵp ymreolaethol o gymdogion o’r Sblot, Waunadda a Thremorfa yw’r Splo-Down Food Cooperative sydd wedi dod ynghyd i ddiwallu eu hanghenion bwyd eu hunain ar y cyd a rhannu costau isel gyda’r gymuned trwy fuddion prynu cymunedol am bris cyfanwerthol.

Lansiwyd y stondin farchnad wythnosol yr wythnos hon a bydd yn cael ei rhedeg gan aelodau yng nghwrt Canolfan Oasis (Ffordd Sblot, Caerdydd, CF24 2BW).

Bydd y farchnad yn rhedeg bob dydd Mercher 5pm-7pm.

Gan brynu a dosbarthu bwyd da yn fforddiadwy, mae’r grŵp hefyd yn anelu at gryfhau cysylltiadau cymunedol ar yr un pryd.

Beth mae’r fenter yn ei gynnig:

• Gallu archebu ymlaen llaw a chasglu bag llysiau tymhorol am £3 o ffynonellau lleol trwy werthwr llysiau lleol;

• Man i gwrdd ag aelodau eraill o’r gymuned, cael paned a sgwrs

• Gwneud cymwynas: mae’r grŵp yn gweithredu cynllun gwneud cymwynas, lle gall aelodau dalu ymlaen llaw i aelodau eraill o’r gymuned fwynhau bocs llysiau neu rai o’r bwydydd eraill am ddim;

• Blwch cyfnewid llysiau: yn berthnasol i chi os oes gennych rai pethau ychwanegol yn eich rhandir, os nad ydych chi eisiau rhai o’r llysiau yn eich bocs llysiau, neu os oes angen i chi gymryd ychydig yn ychwanegol;

• Aelodaeth talu-beth-gallwch-chi:  mae prisiau aelodaeth yn amrywio o £6 y flwyddyn i fyny gyda graddfa symudol yn seiliedig ar yr hyn y gall pobl ei dalu. Wrth i’r grŵp dyfu, maen nhw’n bwriadu cynnig pethau eraill fel cyfnewidiadau hadau ac eginblanhigion, cardiau rysáit, te a choffi, a gweithdai.

Dywedodd y trefnydd Alice Taherzadeh:

“Yn y banciau bwyd, nid yw pobl wir yn cael dewis yr hyn maen nhw’n ei gael. Ein ffocws mawr yw darparu man heb stigma – gall pawb ddod yma, rydyn ni’n gwerthu pob math o fwyd. Gall pobl wneud cymwynas a thalu am focsys llysiau pobl eraill – nid er elusen, ond er undod.

Wrth symud i’r Sblot mae cryfder yr ymdeimlad o gymuned yma yn amlwg iawn o’i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghaerdydd. Mae’r Sblot a Thremorfa yn gymunedau hirsefydlog yng Nghaerdydd, ac mae ganddyn nhw ymdeimlad cryf o gefnogaeth ac undod.” 

Mae aelodau Splo-Down Food Coop eisiau creu man i bawb yn y gymuned wrth gydnabod pa mor anghyfartal yw mynediad pobl at adnoddau.

Credwn fod cymuned yn fan da i ddechrau mynd i’r afael ag annhegwch ein heconomi ehangach.

Rydym yn credu mewn undod nid elusen. Rydyn ni’n cynnig cyfle i bobl sy’n teimlo’n fwy cyfforddus yn ariannol dalu mwy i mewn i’r fenter fel bod pobl sy’n teimlo’n fwy o bwysau o ran arian yn gallu talu llai.”

Amcanion y grŵp:

• Gwneud bwyd iach yn fwy hygyrch a fforddiadwy;

• Lleihau ansicrwydd bwyd i aelodau cymunedau’r Sblot, Waunadda a Thremorfa;

• Rhoi pŵer prynu i gymunedau;

• Helpu i dorri corfforaethau mawr ac arferion ffermio anghynaliadwy ar raddfa ddiwydiannol allan o gadwyni cyflenwi;

• Cryfhau’r ymdeimlad o gymuned ymhellach yn y Sblot, Waunadda a Thremorfa; 

• Cwrdd â chymdogion a rhannu bwyd gyda nhw;

• Cefnogi a chydweithio â phrosiectau tyfu bwyd lleol;

• Adeiladu gwytnwch yn ystod y pandemig ac ar ôl Brexit.

• Dywedodd y trefnydd Daniel Pass;

“Mae yna gyfle i’r gymuned gyfan fod yn rhan ohoni. Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn chwilio am ffyrdd i helpu ei gilydd, yn enwedig yn 2020. Mae hyn yn ymwneud yn fwy na dim ag adeiladu adnodd lle gall y gymuned weithio gyda’i gilydd a chefnogi ei gilydd. Rydyn ni wedi cychwyn arni ond ein nod yw creu menter gynaliadwy y gall pobl ddibynnu arni dros amser.

Y gobaith yw y bydd yn rhywbeth a fydd yn goroesi pob un ohonom.”

Splo-Down Coop – Datganiad o Werthoedd y Grŵp

Cymuned

Credwn y gall cymunedau ddiwallu eu hanghenion eu hunain mewn ffyrdd sydd o fudd cyfartal i bawb. Rydym yn cael ein rhedeg gan aelodau – gan y gymuned, ar gyfer y gymuned. Rydym yn grŵp ymreolaethol sy’n gwneud penderfyniadau ar y cyd trwy drafod a gwrando gweithredol. 

Cydweithrediad

Mae gan bawb sgiliau, rhwydweithiau, diddordebau, profiadau bywyd a galluoedd unigryw – ac mae angen pob un ohonyn nhw i wneud i hyn weithio! Rydym yn credu mewn gwaith tîm, cydweithredu a chydweithio, ac yn cefnogi pawb i gyfrannu fel aelodau yn ôl eu cryfderau a’u diddordebau.

Parch

Credwn mai cryfder cymuned yw cydnabod a gwerthfawrogi gwahaniaethau, ailddosbarthu pŵer, cael cyfathrebu gonest, dangos undod, gofalu am ein gilydd a meithrin cyfeillgarwch. Rydym yn croesawu pob cymydog i ymuno fel aelodau ac ymrwymo i weithio gyda’n gilydd i wneud y fenter yn hygyrch ac yn gynhwysol.

Addasrwydd

Rydym yn gwerthfawrogi hyblygrwydd, dibynadwyedd ac ymatebolrwydd.  Credwn, pan mai cymdogion sy’n rheoli yn hytrach na chwmnïau er elw, y gallwn addasu i gefnogi ein gilydd a sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd da.

Economi Leol Amgen

Rydyn ni’n credu mewn trawsnewid ein heconomi ac rydyn ni’n dechrau gyda bwyd! Rydym am weld symudiad i ffwrdd o gorfforaethau mawr, ecsbloetiaeth, cystadleuaeth a gwastraff; tuag at economi adfywiol a dyfir yn lleol sy’n diwallu anghenion pawb, yn galluogi cymunedau i rannu a gwneud dewisiadau cynaliadwy yn rhatach.

I ddysgu mwy am y fenter, cliciwch yma: https://bit.ly/39fBDJN

I ddod yn aelod neu i ddarganfod mwy am y grŵp, cliciwch yma: https://bit.ly/39cRUiT

Inksplott