Newyddion

Pethau efallai y byddech yn synnu eu gweld yn Y Sblot

Mae pobl y Sblot yn gwybod ond mae’n bosib y bydd pobl sy’n byw mewn ardaloedd eraill o Gaerdydd yn synnu i glywed am y pethau sydd yma yn Y Sblot.

Mae llawer gan Y Sblot i’w gynnig; mae’r sawl sy’n byw yma wedi gwybod hynny am sbel, ond rhag ofn bod unrhyw amheuaeth mai’r Sblot yw’r lle i fod, dyma restr o bethau gwych ar ein stepen drws:

1. Taflu bwyeill

Pwy a wyddai fod modd cael profiad o daflu bwyeill fel coedwigwr yn Nhremorfa? A dyma’r lleoliad cyntaf o’i fath yng Nghymru!

10 person, cerddoriaeth yn bloeddio, bwyeill a tharged. Am syniad!

https://www.lumberjackaxethrowing.co.uk/

2. Diwrnod ar y traeth!

Sawl ardal o Gaerdydd all frolio traeth ar eu stepen drws? Ddim llawer, mewn gwirionedd, mae’n bosib mai ni yw’r unig un! Mae’n bosib na fod Traeth Y Sblot at ddant pawb, ond os ydych chi’n hoffi’r môr, yn cael eich ysbrydoli gan gymysgedd o bethau diwydiannol a naturiol ac eisiau gweld cadnoaid, tegeiriau bera a lindys oll o fewn ychydig funudau, yna beth am fynd am dro i ddarganfod y rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy’n cael ei than-werthfawrogi fwyaf!

Sut i gyrraedd yno:

Ewch trwy Barc Moorland, ewch ar hyd Ffordd Poortmanmoor, ewch i’r chwith ar y ddau gylchfan nesaf a chroeswch y ffordd wrth y bwrdd poster. Byddwch yn gweld y giât. 

3. Beth am fynd i’r opera

Mae Cymdeithas Actio Amatur Y Sblot wedi bod yn rhan o gymuned y Sblot am 65 mlynedd bellach ac mae’n ymarfer bob nos Lun/nos Fawrth yn ystod tymor sioeau yng Nghanolfan Chwaraeon a Chymunedol yr Hen Lyfrgell ar Ffordd Singleton.

Maen nhw’n cynnal sioeau rheolaidd a gallwch fwcio tocynnau trwy ffonio 07929252739.

Mae llawer o’u sioeau yn deyrnged i rai o sioeau enwocaf Broadway yn Efrog Newydd. Dewch i ymuno yn yr hwyl!

4. Pobyddion o Fri!

Mae rhai o siopau bara gorau Caerdydd yma yn Y Sblot! Mae gennym gymaint i ddewis o’u plith a nawr mae gennym opsiwn sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd hefyd!

Mae Siop Fara Brutons bellach yn cynnal pecynnu di-blastig ar gyfer eu holl gynnyrch a hefyd yn gwerthu cacennau a phasteiod fegan. Gallwch ddod o hyd i’r siop ar Stryd Carlisle.

Os oes gennych chwant am frechdan bacwn gyda phaned neu frechdan brecwast i fynd, ewch draw i Siop Fara Carlisle ar Ffordd Sblot. Mae ganddynt lwythi o nwyddau parod a chasgliad gwych o gacennau a bara.

Mae Baker’s Dozen, hefyd ar Ffordd Sblot, yn cynnig eitem hanfodol; prydau parod mewn blwch Tupperware am lai na phum punt. Mae cymaint o bobl yn darparu ar y prydau a ddarperir am gost isel gan y siop fara hon; mae’n hollbwysig yn y Sblot. A, pwysicaf oll, ar gyfer nifer o henoed a phobl ynysedig, dyma le maen nhw’n creu cysylltiadau ac yn cael sgwrs gyfeillgar.

Nid siop fara ydyw, ond rhaid sôn am yr Imperial Cafe wrth gwrs! Ar Ffordd Sblot, mae’r caffi hwn yn cynnig brecwast, cinio a swper am brisiau rhesymol iawn. Ar ben hynny, mae’r perchnogion yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned. Pan gyhoeddodd elusen leol, Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot, eu bod yn cynnal noson gwis, bu’r Imperial Cafe gysylltu â nhw i gynnig darparu cebabau ffres a blasus i helpu i godi arian.

Beth alla’i ddweud? Mae’n wych bod gennym yr holl leoedd hyn yn lleol i ni.

5. Bragdy Brains

‘Bragdy’r Ddraig’ erbyn hyn, bu prif fragwr Cymru symud o ganol y ddinas i’r Sblot ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae bellach ar Ffordd y Pasiffig yn y Sblot.

Gallwch fwcio taith o’r safle ar https://www.sabrain.com/

6.  Clwb paffio lleol

Mae hanes balch o baffio yn y Sblot (a wyddoch chi fod yna ring baffio maint llawn yn nhafarn y Royal Oak? (Ie, dwi’n gwybod bod y dafarn yn Waunadda, ond mae o fewn tafliad carreg i’r Sblot!) ac mae hyn yn parhau gyda’r gwaith ffantastig sy’n cael ei wneud gan Glwb Paffio Amatur y Sblot sydd ar ben deheuol Ffordd Moorland. Mwy o wybodaeth yma:

https://www.facebook.com/Splottboxingclub/

7. Bad Wolf

Ni fydd angen rhagor o fanylion ar y sawl sy’n gwylio Doctor Who, ond ar gyfer pawb arall, cwmni cynhyrchu teledu a ffilm yn y Sblot sydd wedi gweithio ar gynyrchiadau mawr megis His Dark Materials ac A Discovery of Witches yw Bad Wolf. Mae’r cwmni hwn yn rhoi’r Sblot ar y map byd-eang!

Mwy o wybodaeth yma: https://bad-wolf.com/

8. Y Gymraeg yn yr ardal

Mae’r Gymraeg yn ffynnu yn y Sblot gydag ysgol gynradd Glan Morfa yn ehangu ac yn adleoli i Ffordd Lewis a nosweithiau gwerin rheolaidd ‘Y Parlwr’ yn Llyfrgell y Sblot. Gallwch ddarganfod mwy am y digwyddiadau sydd ar ddod ar eu tudalen ar Facebook: https://www.facebook.com/yparlwr/

9. Mae’n hen ond mae’n dal i weithio

Yn Nhreganna, byddai’n cael ei alw’n ganolfan hen bethau, ond yn Nhremorfa, mae’n cael ei alw’n farchnad rad!

Marchnad Rad Dan Do Caerdydd yw un o wir berlau cudd yr ardal hon ac os oes gennych chi awr neu ddwy i’w sbario ar y penwythnos, mae’n le anhygoel i’w archwilio. Un gair o rybudd; gallwch chi golli oriau yn lle yma sydd fel ogof Aladin!

Mae’r farchnad wedi’i rhannu’n dair ardal; dwy brif ystafell sy’n cynnwys y stondinau ac ystafell ocsiwn lle mae eitemau’n cael eu harddangos ar ddydd Sadwrn er mwyn i bobl allu eu gweld cyn yr ocsiwn ar ddydd Sul (gallwch fynd i edrych ar yr eitemau ddydd Sul ar ôl 9am gyda’r ocsiwn yn cychwyn am 10am ac yn gorffen tua 1pm fel arfer).

Mwy o wybodaeth yma:http://www.cardiffindoorfleamarket.com/

10. Mae gennym ni westy, Greggs a Subway!

A wyddoch chi fod yna westy yn y Sblot? Neu Greggs?  Neu Subway? Wel, mae gennym ni’r cwbl! Ewch draw i’r gylchfan hud ac fe welwch chi’r Subway a’r Premier Inn, trowch i’r dde a dilynwch y ffordd ac fe welwch chi’r Greggs. Ac mae ar agor am 6am!!!

Hefyd…

Caffi Atgyweiriadau

Bob yn ail ddydd Sadwrn o’r mis mae grŵp anhygoel o wirfoddolwyr yn ymgynnull yng Nghanolfan Oasis ar Ffordd Sblot i drwsio pethau sydd wedi torri AM DDIM! Gan ein helpu ni i gadw pethau allan o safleoedd tirlenwi a hyrwyddo’r ethos hyfryd o drwsio, ailddefnyddio ac ailgylchu, mae Caffi Atgyweirio’r Sblot yn adnodd anhygoel ac rydym yn falch o’i gael ef. Mwy o wybodaeth yma:https://www.facebook.com/events/539644709965046/

Clwb Brecwast

Mae Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot yn sefydliad anhygoel sy’n cael ei redeg gan Angela a Fred. Ethos y sefydliad yw sicrhau bod o leiaf un pryd poeth o fwyd y dydd yn hygyrch ac ar gael i unrhyw un sy’n byw mewn tlodi bwyd. Am syniad gwych!

Mwy o wybodaeth yma:https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/cardiff-poverty-homelessness-family-breakfast-17548579

Cadwch y Sblot yn Daclus

Mae’r grŵp hwn o bobl efo meddylfryd cymunedol yn cwrdd ar benwythnos olaf bob mis i gasglu sbwriel mewn gwahanol fannau yn y Sblot. Wedi’i sefydlu gan driawd o bobl sy’n caru lle maen nhw’n byw, mae’r mudiad wedi trefnu dros 40 digwyddiad casglu sbwriel, wedi llenwi dros 2,000 o fagiau gyda sbwriel o strydoedd y Sblot, ond yn fwy na hynny, wedi creu cyfleoedd diri am ymgysylltiad cymunedol a chyfeillgarwch. Rydym wrth ein boddau yn byw yn yr ardal hon ac rydym eisiau gofalu amdani!

Inksplott