Newyddion

Pryderon am newidiadau posib i ddalgylch Ysgol Glan Morfa

Mae cynigion i newid yr ysgol uwchradd ar gyfer dalgylch Ysgol Glan Morfa wedi achosi pryder i rai trigolion y Sblot, yn benodol sut bydd eu plant yn mynd i’r ysgol pan fyddant yn symud i fyny o’r ysgol gynradd.

Mae trosglwyddo dalgylch Ysgol Glan Morfa o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn rhan o gynllun newydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ysgol 2021/22.

Er bod Bro Edern yn agosach i’r Sblot nag Ysgol Gyfun Glantaf, does dim bysys am ddim i’r ysgol a dim gwasanaethau uniongyrchol gan gwmni Bws Caerdydd.

Mae sylwadau ar dudalen Incsblot ar Facebook yn dangos bod gan rai rhieni bryderon am yr effaith bydd y newid i’r ysgolion uwchradd yn ei gael ar eu plant yn mynd i’r ysgol ac yn ôl adref.

Dywedodd un darllenydd,

“Tra bod gen i ddim problem gyda’r cynigion o ran egwyddor, mae’r diffyg trafnidiaeth yn rhwystr enfawr ac yn achosi pryder i rieni yn ymwneud â diogelwch ein plant.

Mae rhieni plant a fethodd cael lle yng Nglantaf y llynedd yn cael eu gorfodi i yrru eu plant i Fro Edern sy’n ychwanegu’n sylweddol at dagfeydd, heb sôn am y niwed i’r amgylchedd. I nifer o rieni eraill heb gar, yr unig opsiwn sydd ganddynt yw anfon eu plant i’r ysgol yn gynnar iawn, yn y tywyllwch, ar wasanaeth rhif 2 Bws Caerdydd o Ffordd Wellfield cyn gorfod cerdded ugain munud arall trwy ardaloedd adeiledig, hynod brysur. Mae’r holl daith yn cymryd ymhell dros awr bob ffordd ac mae’n anniogel. Does dim llwybrau bws uniongyrchol o’r Sblot a Thremorfa i Fro Edern.

Buaswn yn annog rhieni i gysylltu â’r Cyngor i ofyn iddynt ailasesu’r polisi trafnidiaeth ysgol ar frys oherwydd mae’n glir na fod y polisi hwn yn addas i’r diben bellach. Buaswn hefyd yn dadlau’n gryf y dylai’r Cyngor weithio tuag at ddarparu gwasanaeth bws uniongyrchol o’r Sblot a’r ardal gyfagos i Fro Edern. Er nid yw’n ddelfrydol nac yn deg dan yr amgylchiadau, buaswn yn ystyried gwneud cyfraniad tuag at gynllun cymhorthdal bws uniongyrchol.”

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:

“Mae dalgylchoedd ysgol yn cael eu hadolygu’n gyson i helpu sicrhau bod y cyflenwad a’r galw am leoedd ysgol yn cael eu dosbarthu’n gyfartal ac yn strategol ar draws y ddinas.

“Mae hefyd angen ail-alinio rhai o’r dalgylchoedd ar gyfer ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg gan fod gormod o ddisgyblion ar gofrestri rhai ysgolion ar hyn o bryd, tra bod gan eraill leoedd gwag.

“Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i bobl leisio eu barn ac rwyf yn annog pobl i gyflwyno eu barn i helpu llunio’r cynigion ar gyfer trefniadau ysgol.”

Os oes gennych chi unrhyw bryderon dros y newid i ysgolion uwchradd arfaethedig disgyblion Ysgol Glan Morfa, gallwch eu cyflwyno fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus a agorodd heddiw ac a fydd yn rhedeg tan ddydd Mercher 26 Chwefror 2020.

Gallwch weld manylion yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor ar y ddolen hon https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Gwneud-cais-am-le-mewn-ysgol/Ymgynghoriad-Cyfrwng-Cymraeg/Pages/default.aspx

Inksplott