Newyddion

Ailddechrau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus ar gyfer rhai eitemau yn unig

Dychwelodd gwasanaeth casglu deunydd swmpus ar gyfer eitemau cyfyngedig ar Fehefin 1af.

Gofynnwn i breswylwyr drefnu casgliad dim ond ar gyfer eitemau sy’n achosi anawsterau gwirioneddol i chi eu storio gartref.

Mae’r casgliad gwastraff swmpus ar gyfer eitemau mwy, na fyddech yn gallu eu ffitio yng nghist eich car i ddod â nhw i’n canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby neu Glos Bessemer.

Nid ydym yn codi tâl am gasglu eitemau y gellir eu hailgylchu’n llawn:

     Bwrddn bwyta pren neu silff lyfrau

     Ffrâm gwely metel neu uned silffoedd

     Offer trydanol mawr fel oergell neu beiriant golchi

     Carpedi

     Fframiau a ffenestri UPVC

     Matresi sbring (codir tâl am ewyn cof)

Rydym yn codi tâl am gasglu eitemau a wneir o gymysgedd o wahanol ddeunyddiau:

     Soffas a chadeiriau breichiau

     Gwaelod gwelyau difán

     Matresi ewyn cof (mae matresi sbring am ddim)

     Dodrefn wedi eu gwneud o gymysgedd o ddeunyddiau megis cwpwrdd pren gyda drysau gwydr

Ni allwn gasglu rhai eitemau, gan gynnwys:

  • Asbestos
  • Gwydr ffeibr
  • Deunyddiau adeiladu a gwastraff adeiladu, megis bwrdd plastr neu ddeunydd inswleiddio
  • Darnau car neu injan
  • Eitemau haearn bwrw
  • Cemegolion megis tynnwr paent
  • Tiwbiau fflworolau
  • Poteli neu duniau nwy
  • Olew (injan neu goginio)
  • Tuniau paent
  • Teiars
  • Pianos
  • Gwastraff gardd

Gallwch archebu casgliad drwy gysylltu â C2C ar (029) 2087 2088. Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn gallu trefnu casgliadau ar eich rhan,  dim ond ar gyfereitemau sydd am ddim –  #cwestiwncyflymcaerdydd. Bydd y tîm yn gofyn i chi am yr holl wybodaeth sydd ei hangen mewn neges uniongyrchol.

Os oes angen i chi archebu casgliad yn gynt na’r dyddiad nesaf sydd ar gael, mae gan ein tîm Gwasanaethau Masnachol nifer o opsiynau y codir tâl amdanynt.

Gallant gasglu un eitem neu gallwch logi sgip. Cysylltwch â  GwasanaethauMasnachol@caerdydd.gov.uk am ddyfynbris am ddim heb rwymedigaeth.

Sylwer  na fyddwn yn casgluos oes gennych chi, neu rywun yn eich cartref, symptomau COVID-19.

Ewch i  caerdydd.gov.uk/gwastraffswmpus i gael rhagor o wybodaeth.

Inksplott