Newyddion

Aros gartref i barhau tan fis Awst i rai yng Nghymru

Bydd bron i 130,000 o bobl yn derbyn llythyr oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru yr wythnos hon yn amlinellu’r cyngor diweddaraf er mwyn eu diogelu rhag y coronafeirws.

Bydd gofyn i’r bobl hyn barhau i warchod eu hunain hyd 16 Awst. Bydd y llythyr hwn hefyd yn disgrifio sut y mae’r cyngor meddygol wedi newid, gan eu galluogi i fod allan yn yr awyr agored er mwyn cyfarfod â phobl eraill am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig. 

Y grŵp a warchodir yw pobl sy’n cael eu hystyried yn agored iawn i niwed o safbwynt datblygu salwch difrifol os byddant yn cael eu heintio â’r coronafeirws oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd penodol.

Mae’r bobl hyn wedi bod yn dilyn cyngor penodol a chaeth iawn i’w gwarchod am 12 wythnos.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

Ers dechrau’r pandemig rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu rhag y coronafeirws.

Mae’r sefyllfa o safbwynt nifer yr achosion o’r coronafeirws yn cael ei monitro’n ofalus iawn – os bydd y nifer yn lleihau mae’n bosibl y bydd y bobl o fewn y grŵp o bobl a warchodir yn gallu gwneud mwy ond os bydd nifer yr achosion yn cynyddu efallai y byddwn yn cynghori’r bobl hyn i beidio â mynd allan o gwbl ac aros gartref unwaith eto.

Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newid o safbwynt y cyngor i’r bobl sy’n gwarchod eu hunain, ar sail adolygiad o’r dystiolaeth a gynhaliwyd gan bedwar prif swyddog meddygol y DU.

O 1 Mehefin gall pobl sy’n gwarchod eu hunain adael eu cartrefi er mwyn cyfarfod â phobl o aelwyd arall yn yr awyr agored, ar yr amod fod rheolau caeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid da yn cael eu dilyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ymarfer yn yr awyr agored.

Nid yw’r dyddiad newydd o fis Awst ar gyfer y bobl a warchodir yn effeithio ar y cyngor diwygiedig hwn.

Dywedodd Dr Atherton:

Rydym yn gofyn i bawb sydd o fewn y grŵp o bobl a warchodir barhau i warchod eu hunain hyd 16 Awst oherwydd nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Rydym yn awyddus i wneud popeth posibl er mwyn cadw’r bobl o fewn y grŵp hwn yn ddiogel ac mae hynny’n golygu gofyn iddynt barhau i warchod eu hunain.

Byddaf yn parhau i gydweithio â’r prif swyddogion meddygol eraill er mwyn adolygu’r dystiolaeth ar gyfer y grŵp hwn o bobl a byddaf yn ysgrifennu atynt eto yn yr haf.

Rydym wedi gofyn i bawb o fewn y grŵp o bobl a warchodir barhau i ddibynnu ar    eu rhwydweithiau cymorth presennol – sy’n cynnwys aelodau o’r teulu a ffrindiau – er mwyn eu helpu â thasgau pob dydd, fel siopa bwyd a chasglu meddyginiaethau ar bresgripsiwn. 

Os nad oes gan bobl unrhyw un yn lleol i’w cynorthwyo, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag awdurdodau lleol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, manwerthwyr bwyd mawr, meddygon teulu a fferyllfeydd er mwyn sicrhau y gallant dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn parhau i warchod eu hunain.

Bydd y trefniadau ar gyfer bocsys bwyd wythnosol i’r bobl hynny sy’n gwarchod nad ydynt yn cael unrhyw gymorth gan eu teulu neu ffrindiau yn parhau i fod ar waith. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i weithio gyda manwerthwyr archfarchnadoedd yng Nghymru sy’n cynnig siopa ar-lein i sicrhau bod slotiau blaenoriaeth ar gael i bobl sy’n gwarchod.

Ychwanegodd Dr Atherton:

Mae llawer o waith wedi’i wneud er mwyn cefnogi pobl sy’n gwarchod eu hunain a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chynghorau Gwirfoddol Sirol am eu holl waith a’u cefnogaeth.

Inksplott