Cymuned

Bwrdd iechyd i weithredu canolfannau brechu Covid-19 yn adeiladau’r Cyngor yn Splot a Phentwyn

Bydd canolfannau brechu Covid-19 yn cael eu sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn a chanolfan STAR gynt yn Splott Road fel rhan o gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddarparu rhaglen frechu dorfol ar gyfer Caerdydd.


Bydd y bwrdd iechyd yn defnyddio dau leoliad y Cyngor i roi brechlyn i drigolion Caerdydd dros gyfnod o 12 mis.


Nid oes dyddiad wedi’i bennu eto ar gyfer pryd y bydd brechu’n cychwyn, ond bydd gwaith paratoi’r canolfannau yn dechrau er mwyn bod yn barod i agor eu drysau cyn gynted ag y bo eu hangen. Pan fydd y canolfannau ar waith, bydd brechu’n digwydd saith diwrnod yr wythnos.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae’r bwrdd iechyd wedi dewis y ddau leoliad hyn, y mae’n teimlo bod y cyfleusterau angenrheidiol ynddynt ac maent mewn sefyllfa ddelfrydol yn y ddinas i’w helpu i gyflwyno ei raglen frechu. Mae gallu brechu cymaint o’r boblogaeth â phosibl, cyn gynted â phosibl yn hanfodol – y cyflymaf a’r mwy effeithiol y gellir ei wneud, y mwyaf o fywydau y gellir eu hachub, ond hefyd y cyflymaf y gall Caerdydd ddechrau adfer yn llawn wedi effaith Covid-19.

Dywedodd Cynghorydd Peter Bradbury:


“Bydd defnyddwyr cofrestredig y ganolfan yn gallu parhau i ddefnyddio cyfleusterau Better eraill yng Nghaerdydd, ond gwyddom y bydd hyn yn anghyfleustra i drigolion sy’n defnyddio Canolfan Hamdden Pentwyn sydd wedi bod ar gau i’r cyhoedd drwy’r pandemig. Fodd bynnag, hoffwn sicrhau’r trigolion hynny y bydd cyfleuster hamdden ym Mhentwyn o hyd, pan fydd hyn i gyd drosodd, ac nad oes angen yr adeilad ar y GIG mwyach.”

Cafodd canolfan STAR gynt ar Splott Road ei chau yn 2016 pan gafodd yr Hyb STAR newydd ei hagor ar Muirton Road. Cafodd y cyfleuster ar Splott Road ei brydlesu i’r bwrdd iechyd ym mis Mawrth ac mae’n cael ei ddefnyddio at ddibenion profi Covid-19 ar hyn o bryd. 

Ar y newidiadau i Phentwyn, dywedodd Cynghorydd Bradbury:


“Yn wir, er bod yr adeilad ar gau i ddefnyddwyr hamdden er mwyn galluogi creu’r ganolfan frechu dorfol, rydym yn edrych i weld a allwn ni fanteisio ar y cyfle i fuddsoddi rhywfaint i foderneiddio’r cyfleuster.
“Os gallwn ni nodi rhywfaint o arian yn y gyllideb, byddwn ni’n llunio cynlluniau i’w trafod gyda’r gymuned leol ond mae’r opsiynau rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd yn cynnwys campfa fwy wedi’i huwchraddio, gwelliannau i’r caeau awyr agored, a newidiadau i’r pwll i’w wneud yn well ar gyfer nofio a dysgu sut i nofio.”


Mae cyfleusterau hamdden diogel eraill, gan gynnwys Canolfannau Hamdden y Dwyrain, a gafodd ei hadnewyddu yn ddiweddar, a’r Tyllgoed, a weithredir gan GLL, ar gael i drigolion lleol eu defnyddio tra bydd Canolfan Hamdden Pentwyn ar gau. 


Inksplott