Dan Sylw

Ystadegau Covid Caerdydd Ar Gyfer Y Saith Diwrnod Diwethaf Mewn Perthynas â’r Sblot, Waunadda A Thremorfa

Bob dydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am ganlyniadau positif profion Covid-19 yng Nghymru.  Mae’r wefan yn caniatáu ichi chwilio am wybodaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol ac mae yna fap defnyddiol sy’n dangos achosion mewn wardiau unigol dros gyfnod treigl 21 diwrnod a saith diwrnod.

Es i ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru bore ‘ma i gymryd golwg ar y data diweddaraf ar gyfer Caerdydd yn gyffredinol ac ar gyfer y Sblot, Waunadda a Thremorfa ar wahân. Dyma beth wnes i ddod o hyd iddo:

Data o 20 i 26 Hydref 2020:

Ardal     Achos    Fesul 100,000     % o’r achosion yng Nghaerdydd

Caerdydd            1,214     330.9    

Waunadda          33           273.3     2.7%

Y Sblot  12           194.6     0.98%

Tremorfa             27           360.4     2.22

Cymerwch olwg ar eich data lleol yma: https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

Nifer yr achosion yng Nghaerdydd: 1,214

Mae achosion fesul pob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghaerdydd yn 330.9 am y cyfnod saith diwrnod hwn, tra bod gan Gymru gyfan 233.0 o achosion fesul pob 100,000 o’r boblogaeth. Felly mae dwysedd yr haint yn uwch yng Nghaerdydd nag ar draws Cymru, ond nid yw hynny’n sioc o ystyried mai Caerdydd yw rhan fwyaf poblog Cymru. 

Yn ystod y cyfnod saith diwrnod, profwyd 5,983 o bobl yng Nghaerdydd, gyda 20.3% yn cael canlyniad positif (o’i gymharu â 16.7% yn cael canlyniad positif ledled Cymru gyfan).

Data o 6 i 26 Hydref 2020:

Ardal     Achos    Fesul 100,000     % o’r achosion yng Nghaerdydd

Caerdydd            3,419     931.9    

Waunadda          69           571.5     2%

Y Sblot  24           389.3     0.70%

Tremorfa             54           720.8     1.58%

Yn seiliedig ar y ddwy set o ddata, mae’n ymddangos bod cyfraddau heintiau wedi codi’n ddiweddar yn y tair ardal sef Waunadda, Y Sblot a Thremorfa.  Pan i chi edrych yn ôl ar ddata Caerdydd ar gyfer Gorffennaf 2020, pan mai’r ffigur dyddiol uchaf a gofnodwyd oedd 9, mae’r cynnydd diweddar yn dangos tuedd bryderus.

Bydd yn ddiddorol gweld y data ymhen pythefnos, pan fydd canlyniadau’r Cyfnod Atal yn cychwyn cael effaith. Gobeithio y bydd y bariau ar y graff yn dechrau crebachu unwaith eto.

Canllawiau coronafeirws 

Felly, beth allwn ni i gyd ei wneud i helpu i atal yr haint rhag lledaenu ymhellach a lefelu’r chwydd enfawr hwnnw mewn achosion newydd ers mis Medi?

Yn ystod y Cyfnod Atal, mae’r rheolau’n weddol syml:

• arhoswch gartref

• cadwch bellter cymdeithasol ar bob adeg

• golchwch eich dwylo’n rheolaidd

• peidiwch â chwrdd ag unrhyw un nad ydych chi’n byw gyda nhw

• gweithiwch o adref os gallwch chi

Hunanynyswch os oes symptomau gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref. 

Ewch am brawf os oes gennych chi symptomau.

Mae yna eithriadau; gallwch ddarllen mwy yma: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin?_ga=2.181055727.973759356.1604328043-426221496.1594723586

Inksplott