Newyddion

Chwe chamera isgoch bellach yn gweithredu yng Nghaerdydd i ddal pobl yn cyflawni troseddau tipio anghyfreithlon

“Os oes rhywun yn cynnig casglu gwastraff o’ch tŷ am ryw £20, dylai hyn ganu clychau larwm.”

Dyna’r neges gan y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd.

Mae chwe chamera isgoch bellach yn gweithredu yng Nghaerdydd i ddal pobl yn cyflawni troseddau tipio anghyfreithlon

Ers mis Awst eleni, mae 23 hysbysiad cosb benodedig o £400 yr un wedi cael eu cyhoeddi i droseddwyr ac mae dau achos mwy difrifol yn cael eu paratoi i ymddangos gerbron llys.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ac mae’n difetha’r cymunedau mae pob un ohonom yn byw ynddynt. Mae’r sawl sy’n troseddu’n cael eu rhybuddio bod nifer y camerâu mae Cyngor Caerdydd yn eu defnyddio ar fin cynyddu a bod Cyngor Caerdydd yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ddal y sawl sy’n troseddu.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd: 

“Mae’r sawl sy’n tipio’n anghyfreithlon yn gwneud hynny i ennill arian. Mae’r Cyngor yn darparu’r holl gyfleusterau sydd eu hangen ar drigolion i gael gwared â’u gwastraff mewn modd cyfrifol.

“Mae’r bobl sy’n troseddu yn aml yn hynod drefnus, gan daflu gwastraff o gliriadau tai neu wastraff sy’n cael ei gasglu’n rhad ac yn anghyfreithlon o gartrefi pobl.

“Rydym nawr yn edrych ar y pwerau sy’n bodoli i atafaelu’r cerbydau a nodir yn ein hymchwiliadau, er mwyn i ni allu mynd â nhw oddi ar y ffordd a’u mathru.

“Mae cael gwared â thunnell o wastraff mewn safle tirlenwi neu egni o gyfleuster gwastraff yn costio tua £80 fesul tunnell. Felly, os oes rhywun yn cynnig casglu gwastraff o’ch tŷ am ryw £20, dylai hyn ganu clychau larwm.

“I gasglu gwastraff yn fasnachol, rhaid i chi gael trwydded cludydd gwastraff oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru. Os oes rhywun yn casglu gwastraff o’ch cartref, gofynnwch am eu trwydded a nodyn trosglwyddo gwastraff.

“Dylai’r nodyn trosglwyddo gwastraff nodi o le mae’r gwastraff yn cael ei gymryd ac i ba gyfleuster gwaredu trwyddedig mae’n cael ei gymryd. Os yw’r person sy’n casglu’r gwastraff yn gwrthod darparu’r wybodaeth hon, peidiwch â defnyddio eu gwasanaethau. Fel arall, os yw’r gwastraff yn cael ei chanfod wedi’i thipio’n anghyfreithlon ac yn cael ei holrhain yn ôl i’ch cartref, byddwch yn cael eich erlyn.”

Gofynnwch am Nodyn Trosglwyddo Gwastraff gan y person sy’n casglu eich gwastraff a gwiriwch a ydynt wedi cofrestru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Os yw unrhyw breswylydd yn gweld tipio anghyfreithlon yn digwydd yn eu cymuned, gofynnir iddynt beidio â mynd at y sawl sy’n troseddu ond i nodi’r amser, lleoliad, disgrifiad o’r sawl sy’n troseddu a rhif cofrestru’r cerbyd ac anfon y manylion hyn at Cysylltu â Chaerdydd ar 2087 2087 er mwyn iddynt allu archwilio i’r mater.

Inksplott