Newyddion

Merch ysgol yn ysgrifennu llythyr hyfryd i bennaeth Ysgol Uwchradd Willows yn gofyn am gymorth i wneud yr ysgol yn fwy eco-gyfeillgar

Fel maen nhw’n dweud, plant yw’r dyfodol, ac mae gan Rowan, disgybl ym Mlwyddyn 10, gynllun i achub ein planed a gwneud ein dyfodol yn fwy gwyrdd ac amgylcheddol-gyfrifol.

Mae Rowan yn hoff o anifeiliaid ac yn pryderu am effaith plastig ar ein planed, felly fe benderfynodd hi wneud rhywbeth am y sefyllfa. Aeth hi ati i ysgrifennu llythyr i bennaeth ei hysgol, Ysgol Uwchradd Willows, yn mynegi ei phryderon ac yn awgrymu gwelliannau. Roedd hi’n ddigon mentrus i ofyn am gyfarfod gyda Chris Norman i drafod eu syniadau ac esbonio eu rhesymau y tu ôl iddynt.

Dyma lythyr Rowan yn llawn:

“Annwyl Mr Norman,

Rwy’n poeni am gyflwr y blaned a sut rydym ni, fel pobl, yn dinistrio ein cartref yn araf bach. Fel bodau dynol, rydym yn gwneud camgymeriadau mewn bywyd, nid ydym yn sylweddoli ein bod yn gwneud camgymeriadau, mae’r amser sydd gennym i wneud camgymeriadau yn rhedeg allan. Rydw i’n gwneud camgymeriadau hefyd.

Fel un sy’n hoff o anifeiliaid, mae eu gweld yn dioddef ar raglenni natur ac ar y newyddion yn peri llawer o ofid i mi. Rwy’n ceisio cael eraill i fy helpu i ailgylchu a bod yn eco-gyfeillgar. Rwyf eisiau i’n hysgol weithredu.

Rwy’n pryderu bod yr ysgol yn defnyddio llawer o nwyddau plastig, megis; prennau mesur plastig, boteli plastig, cartonau plastig a chwpanau plastig tafladwy ynghyd â nifer o bethau eraill. Bob dydd, rwy’n gweld disgyblion yn gollwng papurau lapio plastig, boteli plastig a chynwysyddion plastig ar y llawr heb sylweddoli neu’n fwriadol. Does dim llawer o finiau ailgylchu yn neu o amgylch yr ysgol. Bob diwrnod, rwy’n gweld cwpanau plastig untro yn cael eu defnyddio yn y clwb brecwast, yn ystod yr egwyl ac amser cinio. Mae hwn yn ddifrifol. Rwyf eisiau i’n hysgol fod yn fwy eco-gyfeillgar.

A fyddech chi’n ystyried y rhestr isod o syniadau eco-gyfeillgar ar gyfer dyfodol Ysgol Uwchradd Willows.

• Stopio gwerthu poteli plastig a chynnyrch plastig.

• Defnyddio poteli wedi’u gwneud o fambŵ (15c yr un) – £2 yn rhatach na dŵr potel!

• Mwy o ffynhonnau dŵr yn yr ystafelloedd dosbarth a’r cynteddau gan fod hyn yn gallu lleihau’r defnydd o blastig.

• Darparu mwy o offer pren / deunyddiau ail-ddefnyddiadwy.

• Tyfu ein llysiau ein hunain a gwneud ein bwyd ein hunain – bwyd cartref!

• Darparu mwy o finiau ailgylchu o amgylch yr ysgol.

Rwy’n gobeithio y byddwch yn ystyried fy nghais ac yn helpu’r ysgol i ddod yn fwy eco-gyfeillgar.

Yn gywir,

Rowan Williams-Lord Pschuman

Gan edrych ymlaen at welliannau

(Byddwn hefyd yn hoffi siarad â chi er mwyn i mi allu esbonio mwy!)

(llun o’r ddaear).”

Yn dilyn cyfarfod gyda Mr Norman, gwnaethpwyd addewid i roi rhagor o finiau ailgylchu o amgylch yr ysgol i gychwyn.

Yn falch o’i disgybl, gofynnodd Mr Norman i Rowan a oedd yn gallu rhannu ei llythyr hi gydag Incsblot a, rhaid i mi gyfaddef, roedd gen i ddeigryn yn fy llygad a lwmpyn yn fy ngwddf wrth ei darllen.

Am ferch ffantastig, ysbrydoledig.

Da iawn ti, Rowan!  Rwyt ti’n arwain y blaen i bawb gyda dy ddatrysiadau rhagweithiol a chreadigol i broblemau a dy ymwybyddiaeth amgylcheddol.