Newyddion

CYLCHGRAWN FFUGLEN WYDDONOL A FFANTASI CYNTAF CYMRU YN CAEL EI GYNHYRCHU YMA YN Y SBLOT!

Wel, am gyffrous! Mae cylchgrawn ffuglen wyddonol a llenyddiaeth ffantasi cyntaf Cymru, a’r unig un hyd yn hyn, Gwyllion, newydd lansio, ac mae’n cael ei gynhyrchu yma yn y Sblot! 

Cyhoeddir dau rifyn o Gwyllion ar-lein bob blwyddyn ynghyd â nifer gyfyngedig o gopïau papur.

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf erioed ar 1 Medi a gellir archebu copi digidol neu bapur ar eu gwefan.

Mae’r tîm y tu ôl i Gwyllion (rwy’n gobeithio cael cyfweliad â nhw cyn bo hir!) yn annog awduron sy’n byw yng Nghymru a/neu sy’n dod o Gymru i anfon eu straeon atynt. Maen nhw hefyd yn awyddus i dderbyn cynnwys yn Gymraeg!

Gallwch anfon eich cynnwys at submissions@gwyllionmagazine.com

Am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â team@gwyllionmagazine.com

I ddarganfod mwy, cymerwch olwg ar y dolenni hyn:

Gwefan: http://gwyllionmagazine.com/

Twitter: https://twitter.com/GwyllionMag

Facebook: https://www.facebook.com/GwyllionMag/

Inksplott