Cymuned

BENTHYG YN DOD I’R SBLOT!

Agorodd Benthyg, llyfrgell pethau Cymru, ail gangen yn Hen Lyfrgell y Sblot ar 26 Medi.

Mae gan Benthyg bron i 400 o eitemau i’w aelodau eu benthyca am gost isel, gan gynnwys golchwr pwysedd, gasebos, offer gwersylla, offer cynnal a chadw a garddio.

Mae pobl yn gallu rhoddi eitemau di-eisiau a benthyca eitemau maen nhw eu hangen ond nad ydynt yn berchen arnynt.

Mae Benthyg o fudd i’r gymuned a’r amgylchedd; gan ddarparu mynediad fforddiadwy at eitemau pan maen nhw eu hangen, gan gael gwared ar yr angen i brynu, storio a chynnal pethau, a chadw eitemau di-eisiau allan o safleoedd tirlenwi.

Ar brynhawn Sadyrnau rhwng 3-5pm, bydd Benthyg yn gweithredu gwasanaeth ‘clicio a chasglu’ o’r Hen Lyfrgell ar Ffordd Singleton yn y Sblot.

Gall unrhyw un gofrestru i fod yn aelod am ddim ar borrow.benthyg.org, lle gallwch chi bori, cadw a thalu am eitemau yr hoffech eu benthyca.


Rhaid gwneud cais i gasglu eitemau o’r Sblot erbyn y dydd Gwener blaenorol oherwydd ni fydd yr eitemau’n cael eu cadw ar y safle.


Mae Llyfrgelloedd Pethau wedi bod yn ymddangos ledled y DU yn y pum mlynedd diwethaf.  Benthyg yw’r un cyntaf yng Nghymru, a’r unig un ar hyn o bryd, gydag uchelgais i greu rhwydwaith ar draws Cymru a fydd yn cefnogi gwydnwch cymunedol a lleihau ôl-troed carbon Cymru.

Soniwyd am Benthyg yn ddiweddar fel esiampl dda o fenter ail-ddefnyddio gymunedol sy’n cefnogi ffordd gynaliadwy o fyw, mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar yr economi yng nghylchlythyr diweddar Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd Ella Smillie, cyd-sylfaenydd Benthyg:


“Rydym yn hynod falch o allu lansio Benthyg yn y Sblot a chynyddu nifer y bobl sy’n gallu cael mynediad at yr amrediad anhygoel o eitemau sydd gennym i’w benthyca. Gyda nifer ohonom yn teimlo effaith economaidd pandemig Covid-19 ac ar yr un pryd yn dod yn ymwybodol o’r angen bryd i weithredu ar newid yn yr hinsawdd, nawr yn fwy nag erioed yw’r adeg i leihau ein defnydd unigol o adnoddau a’u rhannu.”

Inksplott