Newyddion

Cymru Gynnes: gwasanaeth am ddim yn y Sblot ac Waunadda yn helpu pobl i leihau eu biliau ynni

Yr wythnos hon, cafodd Incsblot sgwrs gyda Rachael o Cymru Gynnes, gwasanaeth a noddir gan Wales and West Utilities Cyf i helpu pobl leol gadw’n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi.

Mae Rachael, Eiriolwr Ynni Cymunedol, yn gweithio yn ardal Caerdydd mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerdydd a Gofal a Thrwsio i helpu cynifer o bobl â phosib i arbed arian ar eu biliau ynni a dŵr er mwyn iddynt allu gwneud y mwyaf o’u hincwm.

Ar hyn o bryd mae Cymru Gynnes yng ngham tri o’r gwasanaeth yng Nghaerdydd ac mae nawr yn ffocysu ar y Sblot ac Waunadda, ar ôl bod yn Llanisien a Llanedern yn flaenorol. Oherwydd adnoddau, eu nod yw ymdrin ag un ardal ar y tro. Ond, mae’r gwasanaeth ar gael ym mhob ardal o Gaerdydd.

Mae Rachael yn gwbl gymwys i gyflwyno’r prosiect gan fod pob un o’u swyddi blaenorol wedi bod â’r nod o helpu’r sawl a oedd angen ychydig o gymorth:

“Mae dangos i ddeiliaid tai sut gallant arbed arian trwy newid eu cyflenwyr tanwydd yn eu galluogi i weld pa mor hawdd mae’n gallu bod. Mae rhai yn credu bod y broses yn un anodd neu eisiau bod yn ffyddlon i’w darparwr.

“Es i gwrdd â chwsmer a oedd eisiau arbed ar y biliau trydan a dŵr. Wedi cwblhau cymharu’r tariff trydan, roedd hi’n arbed £324.62. Yna, fe es i ati i helpu gyda’i biliau dŵr gan arbed £332.52 arall iddi. Felly, fe arbedwyd cyfanswm o £657.14.  Felly, trwy siarad â ni ac ateb rhai cwestiynau syml, roedd hi wedi arbed cryn dipyn. Wedi arbed yr arian hwn, gofynnais iddi basio ein rhif ymlaen i’w ffrindiau a theulu. Roedd hi’n hapus iawn ac roedd yn hyfryd gweld fy mod yn gallu newid bywyd rhywun mewn ychydig funudau yn unig.”

Trwy’r prosiect hwn, mae’r Sblot wedi ymddangos ar newyddion ITV Cymru. Ar 3 Medi 2018, cymerodd Rachael a’i chydweithiwr Katrina ran mewn recordiad gyda phreswylydd lleol y Sblot.   Cymharodd Katrina y tariffau ynni a nodi arbediad posib o dros £400.

Mae Rachael yn bwriadu mynychu’r clwb brecwast yn Hen Lyfrgell y Sblot ar Ffordd Singleton ar fore Iau mor aml â phosib. Mae’r clwb brecwast wedi bod yn ymgysylltu ag archfarchnadoedd lleol i ddefnyddio’u bwyd dros ben i ddarparu pryd o fwyd am ddim a bag o fwyd i gymryd adref ar gyfer pobl sy’n dioddef tlodi bwyd. Maen nhw’n dod â nifer o grwpiau ethnig ynghyd, yr henoed, y sawl heb gartrefi parhaol a cheiswyr lloches, ac yn darparu cyngor ynghyd â gwybodaeth ar weithgareddau, addysg a chyfleoedd gwirfoddoli. Pobl sydd wir yn gallu buddio o arbed arian ar eu biliau ynni a dŵr.

I drefnu apwyntiad gyda Rachael neu ei chydweithwyr, cysylltwch â swyddfa Cymru Gynnes ar 01656 747622.  Gellir hefyd trefnu ymweliadau cartref.

Gellir dod o hyd i fanylion ar Cymru Gynnes yma:

http://www.warmwales.org.uk/cy/cartref/

Twitter @warmwales

Facebook @warmwales CIC

Linkedin /company/warmwales

Pinterest /warmwales

Inksplott