Newyddion

Diweddariad ar gyfarfod PACT mis Gorffennaf

Cynhelir cyfarfod Heddlu a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) bob chwe wythnos lle mae cynghorwyr lleol, cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru ardal Caerdydd, cynrychiolwyr cymunedol a phreswylwyr yn dod ynghyd i drafod y materion sy’n effeithio ar ardaloedd lleol.

Ar ddydd Iau 25 Gorffennaf, cynhaliwyd cyfarfod PACT y Sblot a Thremorfa yng Nghanolfan Chwarae’r Sblot ym Mharc Sblot.

Dyma uchafbwyntiau’r cyfarfod hwnnw:

  • Ar noson cyfarfod PACT ym mis Mehefin, cafodd tramgwyddwr bwrgleriaeth drwy dynnu sylw ei ddal, wedi i’r uned gŵn lwyddo ei ymlid. Diweddariad ar dudalen Facebook Heddlu De Cymru:

Newyddion da – Mis diwethaf fe gyhoeddom y ddelwedd teledu cylch cyfyng hon o ddyn roeddem eisiau ei adnabod mewn cysylltiad â bwrgleriaeth drwy dynnu sylw yn y Sblot.

Mae’n debyg ei fod wedi twyllo menyw 64 mlwydd oed i roi arian iddo gan ddweud ei fod wedi glanhau ei ffenestri a’i chwteri.

Wedi ei ymlid ar droed yn y Rhath, arestiwyd Nigel John Flynn, 32, o Rymni yng Nghaerffili, a’i gyhuddo o bedwar cyhuddiad o dwyll ac un fwrgleriaeth. 

Heddiw, yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd ei ddedfrydu i 3 mlynedd ac 8 mis yn y carchar.

Diolch i bawb a rannodd y stori ac am eich cefnogaeth barhaus.

  • Gorffennaf 14 oedd yr adroddiad diwethaf o feiciau oddi ar y ffordd yn achosi difrod a beicwyr yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol. Mae’r prif dramgwyddwyr yn hysbys i’r heddlu a dan amheuaeth o droseddau eraill ar hyn o bryd. Roedd cydnabyddiaeth gan aelodau’r pwyllgor bod nifer y beiciau oddi ar y ffordd yn achosi problemau wedi gostwng yn ddiweddar, ond nodwyd bod un neu ddau yn parhau i rasio’n rheolaidd o amgylch y Sblot a Thremorfa. Bu cynrychiolwyr yr heddlu sicrhau i drigolion bod ymweliadau tai yn parhau am y beiciau.
  • Mae gweithrediadau byw cyfredol ar Stryd Clifton a Ffordd Sblot i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon, cistiau nitro, grwpiau gwrthgymdeithasol a chyflenwi cyffuriau
  • Mae Tîm Troseddau â Chyllyll OpSceptre yn weithredol yn y Sblot a Thremorfa
  • Mae uned hon wedi bod yn y Sblot a Thremorfa 3 gwaith ers y cyfarfod PACT diwethaf ac mae wedi cael cyswllt cadarnhaol gyda thrigolion
  • Mae nifer yr achosion o ddwyn cerbydau yn Lidl wedi gostwng yn sylweddol. Nid yw’r rheswm am hyn yn glir, ond mae’r uned wedi gwneud pwynt o ymweld mor aml â phosib
  • Adfeddiannwyd dau feic modur o Barc Tremorfa, lle mae yna batrolau rheolaidd, a dychwelwyd un i’w berchennog
  • Anogir trigolion i roi gwybod am feiciau sydd wedi cael eu dwyn ac i nodi rhif y ffrâm er mwyn i’r heddlu allu eu dychwelyd i’w perchnogion
  • Mae’r prif adroddiadau ar hyn o bryd yn ymwneud â phlant ar feiciau a loetran ar Stryd Clifton
  • Crafu ceir – mae ymholiadau wedi cael eu gwneud o ddrws i ddrws yn chwilio am deledu cylch cyfyng. Ni adnabuwyd unrhyw rai a ddrwgdybir.
  • Mae staff Tesco Pengam Green bellach yn herio pobl yr amheuir o brynu tanwydd ar gyfer beiciau oddi ar y ffordd ac yn rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiadau hyn
  • Mae parcio ar Ffordd Sblot yn beryglus i gerddwyr gan fod gyrwyr yn parcio ar linellau melyn dwbl ac yn parcio ar gornel cyffyrdd. Dywedodd y Cynghorydd Jane Henshaw y byddai’n gofyn i aelodau o’r cyngor ymweld i edrych ar fesurau a gorfodaeth
  • Mae pabell a gafodd ei osod ym Mharc Tremorfa – ac a oedd yn gartref i ddyn mewn masg clown – wedi cael ei atafaelu a does dim materion pellach wedi dod i’r amlwg
  • Cynhelir cyfarfodydd PACT bob 6 wythnos mewn gwahanol leoliadau
  • Blaenoriaethau at y dyfodol:
    Beiciau oddi ar y ffordd
    Seiclo gwrthgymdeithasol
    Parcio ar Ffordd Sblot

Dyma le gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eich tîm lleol: https://www.south-wales.police.uk/cy/neighbourhood/caerdydd/sblot/

Inksplott