Dan Sylw

Cymunedau’n cael eu hannog i wneud cais nawr am becynnau gardd am ddim

Mae Keep Splott Tidy eisoes wedi derbyn pecyn gardd bywyd gwyllt, ond a oes grwpiau a sefydliadau eraill yn Nhremorfa, Sblot neu Adamsdown a allai elwa?

Mae amser yn mynd yn brin i gymunedau wneud cais am becynnau gardd am ddim fel rhan o gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae dewis o becynnau ‘dechreuol’ rhagdaledig yn cael eu cynnig i sefydliadau a grwpiau cymunedol i helpu i wrthdroi dirywiad natur. Maent yn cynnwys yr holl blanhigion, offer a deunyddiau sydd eu hangen i greu gerddi bach.

Mae pecynnau ‘datblygu’ hefyd ar gael fydd yn galluogi cymunedau i greu prosiectau ar raddfa fwy, yn cynnwys ardaloedd tyfu bwyd, systemau draenio cynaliadwy a gerddi gwyllt.

Mae panel o arbenigwyr yn asesu’r ceisiadau bob mis ac maent eisoes wedi dyfarnu 444 o becynnau. Mae gwaith ymarferol i sefydlu’r gerddi bellach ar waith ar draws y wlad.

Dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Rydym wedi cael ymateb rhagorol i Leoedd Lleol ar gyfer Natur ac mae’n gyffrous gweld cymaint o erddi newydd yn cael eu ffurfio. Mae grwpiau a sefydliadau o bob math a maint yn cymryd rhan, sydd o fudd i’w cymunedau yn ogystal â’r byd natur sydd ar stepen y drws.

“Dim ond nifer gyfyngedig o becynnau sydd ar gael bellach. Felly os ydych yn gwybod am ardal yn eich cymuned sydd angen ychydig o ofal, rwy’n eich annog i wneud cais nawr.” 

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

‘’Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym i gyd wedi gweld pa mor bwysig yw natur i’n lles meddwl. Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sydd yn werth £5m, yn annog cymunedau i gymryd rhan yn creu natur ‘ar stepen y drws’. Rwyf yn falch iawn bod Cadwch Gymru’n Daclus yn cynorthwyo cymunedau i ddod ynghyd mewn ffordd ddiogel o ran Covid, ac unwaith eto’n derbyn ceisiadau erbyn 31 Awst. Gobeithio bydd gwirfoddolwyr ar draws Cymru yn cymryd rhan yn y prosiectau lleol hyn i adfer a gwella natur.”

Mae’r fenter yn rhan o gronfa £5m ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i gaffael, adfer a gwella natur ‘ar drothwy’r drws’.

I wneud cais ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/nature

Dyddiad cau nesaf ar gyfer gwneud cais am Leoedd Lleol ar gyfer Natur yw 31 Awst

Inksplott