Dan Sylw

Newidiadau i’ch Canolfannau Ailgylchu

Mae’n dal rhaid bwcio, ond nawr gallwch chi ymweld â Chanolfan Ailgylchu Lamby Way 26 gwaith y flwyddyn yn lle 12.

  Bellach mae’n bosib archebu 26 ymweliad y flwyddyn â’ch canolfannau ailgylchu lleol, yn lle 12

·       Gall 2 berson bellach adael y cerbyd i helpu i symud eitemau trymach, felly does dim rhaid archebu casgliad swmpus oni bai bod gwir angen.

·       Ein cyngor erbyn hyn yw eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb

·       Peidiwch ag ymweld â’r canolfannau ailgylchu os oes gennych unrhyw symptomau COVID19

Nid yw’r safle yn derbyn bagiau o wastraff cymysg. Er enghraifft, bydden nhw ddim yn derbyn bag sy’n cynnwys bwyd wedi’i gymysgu â deunyddiau ailgylchadwy.

Os oes gennych y math hwn o wastraff i’w waredu gallwch dalu am ei gwasanaeth​, neu ddefnyddio contractwr gwastraff preifat. Bydd angen i chi sicrhau ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig.​​​​​

Gwastraff na ellir ei ailgylchu

Os oes gennych eitemau na all eu hailgylchu gallwch cymryd nhw i’r safle.

Cyn eu rhoi yn y sgip bydd angen i wasanaethwyr y safle gadarnhau nad oes modd ailgylchu eich eitemau. Mae nhw yn argymell eich bod yn defnyddio bagiau clir neu gynhwysydd i helpu gyda’r broses hon. Os oes angen i chi ddefnyddio bagiau i gludo’r eitemau, bydd angen i chi eu hagor i ddangos i’r staff. Ni chewch ddefnyddio bagiau gwyrdd y Cyngor.

Treuliwch ennyd yn darllen canllawiau y canolfannau ailgylchu a bwcio slot yma: www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu

Inksplott