Newyddion

Dathlu gerddi ffrynt yn y Sblot

Mae prosiect garddio’r Sblot a Thremorfa, Tyfu Sgwrs y Stryd, wedi bod yn dathlu gerddi ffrynt blodeuog preswylwyr y mis Awst hwn.

Cadwch lygad ar eu tudalennau Facebook a Twitter am y rhestr lawn o’u leoliadau o amgylch y Sblot, Tremorfa a Phengam Green ac am awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi i wneud y gorau o flaen eich tŷ.

Mae Curtis Hughes (https://www.curtishughesphotography.com/) wedi bod yn tynnu lluniau gwych ar gyfer Dathliad Haf Gerddi Ffrynt Tyfu Sgwrs y Stryd. Rhowch wybod i Liz a Michelle os hoffech i Curtis y ffotograffydd ddod draw i dynnu rhai lluniau o’ch gardd ffrynt. Byddent wrth eu boddau’n clywed gennych.

Anfonwch neges ar Facebook neu Twitter neu e-bostiwch growingstreettalk@gmail.com

Dyma rai o’r awgrymiadau clyfar hyd yn hyn: 

Mae gerddi ffrynt yn wych ar gyfer dangos eich steil gydag addurniadau gardd.

Mae gerddi ffrynt yn lleoedd perffaith i dyfu blodau ar gyfer gwenyn, gwenyn meirch, pryfed hofran a phryfed buddiol eraill. Mae lafant, fiolas ac eiddew, blodau haul, capan cornicyll a theim oll yn wych. Yr haf yw cyfnod gwledda pryfed ond bydd cynnwys planhigion fel eiddew yn cadw’r neithdar i fynd ymhell i mewn i fis Hydref.

Mae gerddi ffrynt a ffryntiad tai yn lleoedd gwych i dyfu perlysiau coginio megis saets gwyrddlas, sifys a rhosmari, mintys pupur, oregano euraidd, balm lemwn a theim.

Gellir gwneud rhywfaint o waith lliw creadigol hyfryd ar seddi, drysau, rheiliau a gwelyau codi mewn gerddi ffrynt – rhywbeth mor syml ond gall defnydd da o liw wneud i’r ardd gyfan ddod at ei gilydd a’i throi’n rhywbeth eithaf arbennig.

Ar gyfer basgedi crog hyfryd, beth am gynnwys seren basged yr haf – y petwnia!

Ewch am dro i Dremorfa – fe welwch ffiniau blodau hyfryd yno!

Mae’n anhygoel beth allwch chi ei ffitio mewn mannau cul. Gall lafant ffynnu mewn gwely cul iawn.

Mae cymaint o botiau gydag arddangosfeydd blodau gwych o amgylch! Mae potiau datganiad yn llawn begonia a cordyline ynghyd â lobelia, mynawyd y bugail a phetwniâu yn ffab! Mae rhoi’r pethau hyfryd hyn yn eich iard ffrynt yn gwneud byd o wahaniaeth i’r strydoedd lle’r ydym yn byw

Rydyn ni’n caru gwelyau codi wedi’u gwneud o bren! Manteision:  – Gallwch chi wneud iddyn nhw ffitio’n union i’ch gardd fach, maen nhw’n hawdd eu gwneud, gallwch chi eu gwneud allan o bren gwastraff, gallwch chi eu gwneud yn ddwfn sy’n golygu y gallwch chi gael amrediad mawr o blanhigion a gallwch chi eu paentio’n lliwiau llachar neu eu gadael yn naturiol.

Gall gerddi ffrynt gynnwys defnydd creadigol o ofod. Basgedi crog ar y coed a’r gwaith haearn, potiau ar waliau, silffoedd a phalmentydd – defnyddio’r gofod i’r eithaf ynghyd â darparu lliw a llawenydd!

Mae blychau ffenestri yn ardderchog ar gyfer bywiogi ffrynt eich tŷ ac yn dangos, hyd yn oed os nad oes gennych ardd ffrynt, y gallwch fod yn rhan o wella a gwyrddu eich stryd er hynny. 

Inksplott