Cymuned

CANOLFAN WAUNADDA SY’N CEFNOGI POBL AGORED I NIWED YN RHAN O FWLETIN NEWYDDION DA SEREN Y BYD COMEDI

Bydd Canolfan Diwylliant ac Addysg Al-Ikhlas yn Waunadda, sydd wedi bod yn helpu cannoedd o bobl agored i niwed yn y gymuned yn ystod argyfwng COVID-19, yn ymddangos ym mhedwaredd bennod Bwletin Newyddion Da’r Loteri Genedlaethol – crynhoad wythnosol o straeon cadarnhaol sy’n cael ei gyflwyno gan y digrifwr enwog, Joe Wilkinson.

O gymunedau yn dod at ei gilydd i ddarparu barbeciw ar gyfer pentref cyfan i arwyr bob dydd sy’n helpu’r rhai mwyaf anghenus, mae Bwletin Newyddion Da’r Loteri Genedlaethol yn tynnu sylw at, yn dathlu ac yn diolch i’r bobl a’r prosiectau ledled y DU sydd wedi bod yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi eu cymunedau yn ystod pandemig COVID-19.

Ym mwletin yr wythnos hon, y gellir ei weld ar sianel YouTube Achosion Da’r Loteri Genedlaethol yma, mae Canolfan Diwylliant ac Addysg Al-Ikhlas a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn Waunadda, Caerdydd, yn dangos sut maen nhw wedi bod yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i ymestyn darpariaeth eu banc bwyd i helpu i fynd i’r afael â lefelau uchel o dlodi bwyd yn y gymuned leol ers dechrau argyfwng COVID-19. Mae eu banc bwyd prysur iawn bellach yn darparu ar gyfer dros 200 o bobl yr wythnos.

Canolfan Diwylliant ac Addysg Al-Ikhlas, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, wedi’i lleoli yn Waunadda, Caerdydd, yn dangos sut maen nhw wedi bod yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i ymestyn darpariaeth eu banc bwyd ers dechrau argyfwng COVID-19.


Gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r ganolfan hefyd wedi bod yn darparu gwasanaeth dosbarthu parseli bwyd i ffoaduriaid a’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Maen nhw hefyd wedi bod yn casglu presgripsiynau ac yn siopa ar gyfer pobl hŷn a bregus yn y gymuned nad ydynt yn gallu gadael eu cartref o ganlyniad i’r pandemig.

Wedi’i sefydlu yn 2013, mae Canolfan Diwylliant ac Addysg Al Ikhlas wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o fuddion cymunedol a darparu cefnogaeth gymdeithasol, grefyddol ac emosiynol i bobl yn y gymuned. Mae’r ganolfan yn meithrin perthnasoedd rhyng-ffydd ac yn hyrwyddo cytgord crefyddol yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos. Mae’n helpu’r rhai mwyaf anghenus ac yn darparu cefnogaeth hanfodol i nifer fawr o bobl ifanc trwy weithgareddau hamdden.

Gan dynnu sylw at y gwaith y maen nhw wedi gallu ei gyflawni gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol, dywed Ahmed Ali Al-khulaidy, Imam ac Arweinydd Prosiect Canolfan Diwylliant ac Addysg Al-Ikhlas:

“Yn ogystal â’n helpu ni trwy’r pandemig, mae’r Loteri Genedlaethol hefyd wedi ein helpu i sefydlu’r banc bwyd yma yn y ganolfan tua un mis ar ddeg yn ôl, ynghyd ag amryw sefydliadau eraill.

Yn ystod cyfnod COVID-19, rydym wedi defnyddio’r cyllid i barhau i gynnal a darparu gwasanaeth banc bwyd i’r rhai sydd ei angen fwyaf yn ein hardal. Yr adeg sy’n rhoi’r mwyaf o falchder i ni yw pan rydym yn gweld y gwenau yr ydym wedi’u rhoi ar wynebau’r rhai yr ydym yn eu helpu, a’r adborth cadarnhaol gan y preswylwyr o amgylch y ganolfan.

Rydym yn falch o fod yn ffynhonnell cymorth, gobaith a noddfa i’r sawl sydd ei angen fwyaf. Rydym wedi llwyddo ennyn diddordeb y gymuned gyfan, waeth beth yw eu ffydd, eu diwylliant neu eu cefndir, ac mae dod â phawb ynghyd wedi gwneud inni deimlo’n ffodus iawn – yn enwedig ar adeg pan fod angen undod.

Cyn arian y Loteri Genedlaethol, nid oedd gennym unrhyw adnoddau ariannol. Fe roddodd yr arian yr hyder a’r gallu i ni gyflawni yn y gymuned ac rydyn ni am ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y cymorth hwn.”

Ychwanegodd y cyflwynydd Joe Wilkinson, seren cyfres Netflix After Life gyda Ricky Gervais ac 8 out of 10 Cats Does Countdown:

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae hyd at £600 miliwn ar gael i helpu cymunedau ledled y DU yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae’r Bwletin Newyddion Da yn sôn am sut mae pobl a phrosiectau wedi dod ynghyd i gefnogi ei gilydd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Rwy’n addo na fydd unrhyw gwisiau Zoom na Zumba ar-lein, jyst rhai straeon twymgalon a straeon gwych am, wel, newyddion da a phobl wych.”

Y digrifwr Joe Wilkinson sy’n cyflwyno Bwletin Newyddion Da’r Loteri Genedlaethol

Codir cyfartaledd o dri deg miliwn o bunnoedd bob wythnos gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau mawr a bach ledled y wlad. Ers dechrau argyfwng COVID-19, mae’r Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi pecynnau cymorth o hyd at £600 miliwn ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, addysg a’r amgylchedd.

I ddarganfod mwy am yr ystod o gymorth ariannu a gyhoeddwyd gan ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol ledled y DU hyd yma, ewch i wefan Achosion Da’r Loteri Genedlaethol www.lotterygoodcauses.org.uk/coronavirus-pandemic-response

Inksplott