Dan Sylw

Gall miloedd o bobl yng Nghaerdydd a’r Fro fod yn gymwys am gyrsiau am ddim i’w helpu i ailhyfforddi

Mae miloedd o bobl yng Nghaerdydd nawr yn gymwys am hyfforddiant am ddim i newid eu gyrfa drwy sefydlu Cyfrif Dysgu Personol.

Fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru, mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig sawl cwrs mewn sectorau sy’n debygol o fod â chyfleoedd gwaith, gan gynnwys adeiladu, cyllid, TG, iechyd a diogelwch, rheoli prosiectau a pheirianneg.

Mae’r rhaglen ar gyfer pobl sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd, ar gontract dim oriau, neu sydd mewn perygl o golli eu swydd, cyn belled â’u bod yn 19 oed neu drosodd ac yn ennill llai na £26,000.

Yn dilyn peilot llwyddiannus gyda Choleg Gwent a Grŵp Llandrillo Menai a welodd tua 500 o bobl o bob cwr o Gymru’n ymrestru ar gyrsiau rhan-amser wedi’u hariannu’n llawn, mae Cyfrifon Dysgu Personol nawr ar gael ledled Cymru gyda’r nod o helpu miloedd o bobl i hybu eu sgiliau a’u gallu i gael gwaith. 

Cynlluniwyd y cyrsiau hyn yn arbennig i gyfateb i’r bylchau sgiliau a nodwyd mewn sectorau blaenoriaeth yng Nghymru. Mae cyflogwyr a rhanddeiliaid wedi gweithio mewn partneriaeth â cholegau i ddatblygu cyrsiau sy’n berthnasol i sectorau y mae disgwyl iddynt greu cyfleoedd swyddi nawr ac yn y dyfodol agos.

Mae’r holl gyrsiau yn rhai rhan-amser a hyblyg ac wedi’u cynllunio ar gyfer astudio o amgylch swydd ac amgylchiadau’r unigolyn. Mae llawer yn cael eu darparu ar-lein sy’n golygu y gall staff astudio o bell, fin nos ac ar benwythnosau.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Wrth i ni ddechrau’r Flwyddyn Newydd, bydd llawer ohonom ni’n edrych ar ffyrdd y gallwn ni roi hwb i’n gyrfa. Mae effaith y pandemig wedi taro llawer o ddiwydiannau’n galed, sydd wedi golygu bod llawer o bobl wedi bod yn edrych ar ffyrdd o ailsgilio neu uwchsgilio.

“Mae Cyfrifon Dysgu Personol wedi’u dylunio i helpu’r rhai sy’n gyflogedig ond sydd fwyaf agored i niwed. Os nodwyd bod eich swydd mewn perygl neu os ydych chi ar ffyrlo neu gontract dim oriau, gall cael mynediad at gyfrif am ddim agor y drws i roi’r sgiliau a’r cymwysterau y bydd eu hangen arnoch chi yn y sectorau y disgwylir iddynt greu cyfleoedd gwaith.

“Mae’r cyrsiau i gyd am ddim ac wedi’u datblygu gan golegau mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol. Mae’r mewnbwn gan gyflogwyr yn golygu bod y cyrsiau’n ymateb i’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr nawr ac yn y dyfodol i gau’r bylchau sgiliau presennol.”

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro:

“Bob blwyddyn, mae miloedd o oedolion yn astudio cwrs gyda Choleg Caerdydd a’r Fro i roi hwb i’w sgiliau a datblygu neu newid eu gyrfa. Mae lansio Cyfrifon Dysgu Personol yn golygu ein bod ni’n gallu cynnig cyfle i fwy o oedolion yn ein rhanbarth wneud hyn ac ennill cymhwyster am ddim.

“Gyda chymaint o oedolion ar draws ein rhanbarth yn gweld y pandemig COVID-19 yn effeithio ar eu gyrfa, gall y cyrsiau newydd hyn a’n tîm ymroddedig newydd o gynghorwyr eich cefnogi chi i sefydlu Cyfrif Dysgu Personol a chael hyfforddiant am ddim.

Byddwn yn annog unrhyw un sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd, sydd mewn perygl o gael ei ddiswyddo neu sy’n debygol o weld y pandemig COVID-19 yn effeithio’n negyddol ar eu gyrfa neu fusnes i gysylltu â ni. Porwch drwy’r cyrsiau sydd ar gael, siaradwch ag un o’n cynghorwyr newydd a dechreuwch raglen hyfforddi ar-lein hyblyg a fydd yn darparu sgiliau a chymwysterau gwerthfawr i’ch helpu chi i roi hwb i’ch gyrfa neu i ddechrau eto.”

Mae ystod gyflawn o gyrsiau Cyfrif Dysgu Personol Coleg Caerdydd a’r Fro i’w gweld yn https://cavc.ac.uk/cy/pla

Popeth sydd angen i ti ei wybod am Gyfrifon Dysgu Personol

Beth ydyn nhw?

Mae sefydlu Cyfrif Dysgu Personol yn rhoi mynediad i ti i hyfforddiant am ddim a fydd yn helpu i wella dy ragolygon gwaith a dy yrfa’n gyffredinol. Galli ddewis o blith dros 1,000 o gyrsiau mewn 10 sector yn cynnwys adeiladu, cyllid, digidol, iechyd a gofal cymdeithasol a pheirianneg, ac astudio gartref ar-lein o amgylch dy ymrwymiadau eraill.

Pwy sy’n gymwys?

Unrhyw un dros 19 oed sy’n ennill llai na £26,000 neu unrhyw un sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd, ar gontract dim oriau, neu sydd mewn perygl o golli eu swydd.

Sut mae gwneud cais?

Mae modd gwneud cais am Gyfrif Dysgu Personol drwy Cymru’n Gweithio a siarad â chynghorydd lleol. Ffonia 0800 028 4844 neu dos i  https://cymrungweithio.llyw.cymru/cysylltwch-a-ni i gael rhagor o wybodaeth.

Faint mae’n gostio?

Mae am ddim! Mae’r holl gyrsiau coleg sy’n rhan o’r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Yr unig gost fydd yn rhaid i ti ei thalu yw dy dreuliau os bydd angen i ti deithio.

Pa gyrsiau alla i eu dilyn?

Mae yna gannoedd o gyrsiau ar gael gan holl golegau Cymru. Cymer olwg ar wefannau’r colegau eu hunain i gael rhagor o wybodaeth.

Dewisa o blith cymwysterau yn y meysydd canlynol:

  • Cyfrifeg
  • Busnes a rheoli
  • Adeiladu
  • TG a digidol
  • Peirianneg
  • Ffotograffiaeth
  • Gwasanaeth cwsmeriaid
  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
  • Manwerthu, twristiaeth a hamdden
  • Lletygarwch ac arlwyo
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Bwyd a’r tir
  • Ynni a’r amgylchedd

Oes rhaid i mi fynd i fy ngholeg lleol neu alla i astudio unrhyw le yng Nghymru?

Mae llawer o golegau’n addysgu ar-lein yn unig a gall hynny olygu y galli di edrych y tu hwnt i dy goleg lleol. Fodd bynnag, efallai y bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ofynnol yn ystod y cwrs felly bydd angen i ti ystyried amser a chostau teithio.

Am ragor o wybodaeth, dos i https://cymrungweithio.llyw.cymru/cyfrif-dysgu-personol neu ffonia Gyrfa Cymru ar 0800 028 4844.  

Inksplott