Busnes

Y Cyngor yn ceisio landlordiaid i wella mynediad at gartrefi rhent preifat

Mae cynllun peilot newydd i sicrhau gwell mynediad at dai fforddiadwy ac o ansawdd da tymor hwy yn y sector rhent preifat ar y gweill yng Nghaerdydd.

Mae’r Cyngor yn awyddus i weithio gyda landlordiaid preswyl yn y ddinas sydd ag eiddo ar gael i’w prydlesu i’r awdurdod am gyfnod o bum mlynedd, er mwyn cynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael i denantiaid.

Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei reoli gan y Cyngor, gan gynnig ystod sylweddol o wasanaethau cymorth a manteision i landlordiaid a thenantiaid preifat, gan gynnwys:

  • Cymorth ariannol i wella eiddo;
  • Incwm rhent gwarantedig hyd yn oed os yw’r eiddo’n wag;
  • Cyfrifoldeb am waith atgyweirio a chynnal a chadw drwy gydol cyfnod y brydles;
  • Swyddogaethau rheoli tenantiaeth a chymorth tai parhaus i’r preswylydd.

Mae cymorth ariannol ar gael i landlordiaid sydd â diddordeb yn y cynllun, ond mae angen adnewyddu eu heiddo i fodloni safonau prydlesu Llywodraeth Cymru.  Mae grant nad yw’n ad-daladwy o hyd at £2,000, ynghyd â benthyciad di-log o hyd at £8,000 i’w ad-dalu dros bedair blynedd ar gael i wneud gwelliannau angenrheidiol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynllun prydlesu newydd hwn. Mae’n hysbys bod diffyg tai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas ac er ein bod yn adeiladu cartrefi cyngor newydd yn gyflym ledled y ddinas i helpu i fynd i’r afael â’r galw mawr hwn, mae’r sector rhent preifat yn parhau’n ffynhonnell bwysig ym marchnad tai fforddiadwy Caerdydd.

“Rydym yn annog landlordiaid sydd â chartrefi i’w rhentu yng Nghaerdydd i brydlesu eiddo heb ddodrefn i ni am bum mlynedd i gynnig cartrefi i bobl sydd angen llety fforddiadwy o ansawdd da. Rydym yn chwilio am amrywiaeth o wahanol fathau o eiddo sydd o wahanol feintiau hefyd, yn enwedig cartrefi teuluol mwy, ym mhob rhan o’r ddinas.

“Bydd y Cyngor yn rheoli’r eiddo o ddydd i ddydd, telir incwm gwarantedig o 90% o’r gyfradd Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’r landlord p’un a yw’r eiddo’n cael ei feddiannu ai peidio, cynhelir archwiliadau rheolaidd a rhoddir cymorth tai llawn i’r preswylydd er mwyn sicrhau bod y denantiaeth yn llwyddiant i’r Cyngor a’r landlord.

“Credwn fod hwn yn gynnig deniadol iawn i landlordiaid yn y ddinas. Efallai eich bod wedi etifeddu eiddo ac nad ydych yn siŵr a ydych am werthu ar hyn o bryd ond nad ydych am ei adael yn wag neu efallai eich bod yn landlord sy’n awyddus i wneud llai o waith gosod a rheoli er mwyn cael mwy o amser i chi’ch hun. Efallai eich bod yn landlord sy’n chwilio am fwy o sefydlogrwydd gyda’ch incwm rhent. Rydyn ni eisiau clywed gennych chi felly cysylltwch â ni i’n helpu i greu mwy o dai fforddiadwy yn y ddinas i bobl sydd eu hangen.”

I gael gwybod mwy am y cynllun prydlesu gan gynnwys mwy o fanylion am feini prawf cymhwysedd, ewch i’n gwefan https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Tai/Cynllun-prydlesu-rhent-preifat/Pages/default.aspx, e-bostiwch CynllunPrydlesuSectorRhentPreifat@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 20 537 596.

Inksplott