Newyddion

Hanes cryno o’r Gylchfan Hud: Tirnod enwocaf y Sblot

Ar ôl bron i 25 mlynedd, mae’r Gylchfan Hud yn cael ei hailwampio. Pan i’r arwyddion ffordd ddiflannu fis diwethaf, gan adael ysgerbydau geometrig rhyfedd o brydferth, bu trigolion leisio eu pryderon yn sydyn dros ddyfodol y gylchfan ddiddorol ac roeddent yn falch o glywed mai bwriad Cyngor Caerdydd oedd ailwampio’r tirnod, yn hytrach na chael gwared arno.

Ond, faint rydym yn gwybod am ein hynys groesi eiconig? Darllenwch ymlaen am hanes cryno ohoni.

Comisiynwyd y gylchfan fel rhan o Strategaeth Celf Gyhoeddus Bae Caerdydd yn 1992. Dewiswyd yr artist Pierre Vivant ar gyfer y gwaith ac ef ddyfeisiodd y dyluniad gan ddefnyddio arwyddion stryd i greu siapau geometrig.

Defnyddiwyd cwmni lleol, Standard Signs, i osod yr arwyddion a nhw hefyd sy’n gwneud y gwaith ailwampio, felly gallwn fod yn sicr bod y gwaith dan ofal da.

Mae’r gylchfan yn cynnwys pum siâp geometrig: ciwb, sffêr, pyramid, côn a silindr. Mae’r holl strwythurau wedi’u gorchuddio ag arwyddion traffig yn dangos terfynau cyflymder a rheolau a rhybuddion traffig eraill. Mae’r gylchfan yn un prysur felly mae troi arwyddion ffordd yn waith celf yn deyrnged addas.

Mae gan y Gylchfan Hud enw go iawn hyd yn oed! Teitl swyddogol y gwaith yw ‘Tirnod’ (Landmark), er rwy’n amau y bydd unrhyw un heblaw am yr artist neu’r sawl a gomisiynodd y gwaith yn defnyddio’r enw hwnnw!

Mae’r gylchfan yn enwog ym mhob cwr ac yn 2011, roedd y Gylchfan Hud yn rhan o galendr o gylchfannau enwog yng Nghymru

Roedd y gwaith ar y Gylchfan Hud i fod i orffen erbyn mis Medi felly mar pethau’n rhedeg ychydig yn hwyr. Rydym yn croesi ein bysedd y bydd y strwythurau seicedelig yn dychwelyd i’r gylchfan yn fuan.

Am fwy ar yr ailwampio, cliciwch yma.

I ddarllen mwy am Strategaeth Celf Gyhoeddus Caerdydd ac i ddysgu mwy am y cerfluniau a thirnodau eraill a grëwyd gan y strategaeth, cliciwch yma.

Un peth i gloi; nid y Gylchfan Hud yw’r unig ddarn o gelf cyhoeddus yn y Sblot. Mae’r blwch mawr coch gyda’r fellten las a’r siapau melyn igam ogam ar Stryd Tyndall hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth swyddogol. Teitl swyddogol y gwaith yw ‘Fflach Las, Blwch Pŵer a Naddion Rhwyll’ a chafodd ei greu gan John Gingell yn 1994. Rwy’n hoffi’r strwythur, beth amdanoch chi?

Ydych chi’n hoff o’r Gylchfan Hud? Beth yw eich barn am waith celf cyhoeddus y Sblot? Beth yw eich hoff ddarn o waith celf cyhoeddus yng Nghaerdydd? Rhannwch eich sylwadau yn y blychau isod.

Inksplott