Newyddion

Achub tirnod lliwgar y Sblot

Lansiwyd deiseb yr wythnos hon i achub tirnod Fflach Las, Blwch Pŵer a Naddion Rhwyll Caerdydd yn dilyn pryder bod Western Power Distribution, sy’n berchen y safle, yn bwriadu tynnu a dymchwel rhan o’r cerflunwaith.

Mae’r gwaith celf gwallgof, sy’n cynnwys fflach mellt glas ar flwch pŵer coch gyda ‘gwreichion’ melyn, wedi’i leoli ar y bont rhwng Butetown a’r Sblot ac mae nifer o bobl Caerdydd yn hoff iawn ohono.

Er hyn, nid yw pawb yn hoff o’r gwaith celf hwn gan artist lleol o’r enw John Gingell, a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau Bae Caerdydd yn 1994 (yn fuan wedi comisiynu’r Gylchfan Hud – darllenwch fwy yma 

Rhannwyd dolen i’r ddeiseb ar gyfryngau cymdeithasol ddoe a bu’r Cynghorydd lleol ar Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas ymateb yn sydyn gan addo ymchwilio’r mater. Roedd diweddariad cadarnhaol heno:

Diweddariad sydyn ar @saveblueflash. Rwyf ar ddeall bod WPD o’r farn bod y gwaith celf yn eiconig – “ni fyddent eisiau ei ddinistrio o gwbl, hoffem ei gadw”, er mae’n bosib y bydd yn cael ei symud i ran wahanol o’r safle. Mae swyddogion y cyngor bellach wedi ymrwymo i amddiffyn y gwaith celf yn ei gyfanrwydd.”

Felly, croesi bysedd, ni fyddwn yn colli ein tirnod eiconig, oherwydd does dim llawer ohonynt yn ein hardal ni, byddwch yn onest.

Gallwch ddarllen mwy am y ddeiseb yma

Inksplott