Newyddion

Lansio Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru i helpu sefydliadau lleol ddarparu gwasanaethau hanfodol

Sefydlwyd Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru i gynorthwyo grwpiau a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau a chymorth i unigolion a theuluoedd, boed yn unigol neu ar y cyd, wedi’u heffeithio gan bandemig y Coronafeirws.

Yn bennaf, bydd y Gronfa’n darparu cymorth ar gyfer y canlynol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

  • gweithgareddau sy’n helpu pobl agored i niwed sy’n hunanynysu (yr henoed, pobl â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes ac ati);
  • anghenion parhaus pobl agored i niwed i sicrhau bod eu hiechyd a’u lles yn cael eu cynnal;
  • cymorth i fanciau bwyd a sefydliadau sy’n gweithio i frwydro yn erbyn caledi a achosir gan y pandemig, gan gynnwys newyn plant;
  • cydgysylltu ymateb cymunedol;
  • costau gwirfoddolwyr i’r rhai sy’n ymateb i effeithiau’r pandemig;
  • costau ychwanegol gweithio o bell ac addasu gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned ehangach;
  • cymorth ychwanegol yn ôl yr angen ar gyfer anghenion emosiynol ac iechyd meddwl a chymorth profedigaeth.

Yn ail, ac os bydd arian yn caniatáu, byddwn yn darparu cymorth i:

  • atal colli incwm contractau a chodi arian ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cymorth i grwpiau agored i niwed.

Pa grantiau sydd ar gael?

Mae grantiau o rhwng £500 a £2,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol o hyd at £200,000


Pwy all wneud cais?

Elusennau, grwpiau cymunedol a gyfansoddwyd a mentrau cymdeithasol sy’n cynnal gweithgareddau i gefnogi’r gymuned drwy effaith pandemig y Coronafeirws yng Nghymru. 

Bydd grantiau ond yn cael eu dyfarnu i grwpiau a sefydliadau a all ddangos tystiolaeth eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn cydymffurfio â chanllawiau’r Llywodraeth yn ymwneud â’r feirws. 

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais i gael ei ystyried am gyllid. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a ffurflen gais.

Inksplott