Newyddion

Cadwch ati i ailgylchu…

Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i barhau i ailgylchu eu gwastraff yn ystod pandemig Covid-19.

Mae mwyafrif y trigolion eisoes yn gwneud hynny ond mae rhai yn gofyn pam fod angen iddynt barhau i roi eitemau ailgylchadwy mewn bagiau gwyrdd pan fod ailgylchu’r ddinas yn cael ei gymryd i Gyfleuster Adfer Ynni Viridor ym Mharc Trident yn ystod y cyfnod hwn.

Mae pedwar prif reswm pam fod angen i chi gadw ati i ailgylchu:

1.      Cyn gynted â bod yr argyfwng drosodd bydd gweithrediadau ailgylchu arferol yn ailgychwyn. Os ydych yn ailgylchu fel arfer, bydd y cyngor yn gallu ailgychwyn y system arferol heb fawr o ffwdan. Peidiwch â cholli’r arfer o ailgylchu. Pan fyddwch yn colli’r arfer, mae’n anoddach ei hailgychwyn ac mae’n bosib y byddwn yn gallu ailgychwyn y gwasanaeth arferol yn gynharach na’r disgwyl.

2.     Nid oes digon o le yn eich biniau mawr du ar gyfer eich gwastraff cyffredinol a’ch gwastraff ailgylchadwy. Gofynnir ichi eu cadw ar wahân er mwyn gallu eu hadnabod fel gwahanol fathau o wastraff.

3.     Anfon mwyafrif gwastraff y ddinas i gyfleuster Viridor yw’r opsiwn mwyaf diogel ar gyfer trigolion a’n criwiau yn ystod yr argyfwng cyfredol.

4.     Mae’r Cyfleuster Adfer Ynni yn ailgylchu cyfran o’r gwastraff sy’n cyrraedd y ffatri. Maen nhw’n gwneud hyn trwy ailgylchu’r gweddillion a gynhyrchir fel rhan o’r broses, sef lludw gwaelod (deunyddiau nad sy’n llosgi) a lludw ffliw (gweddillion a gesglir drwy’r driniaeth nwy ffliw) a gwaredu a chasglu’r metelau ar ôl y broses hylosgi.

Mae Viridor, sy’n berchen ac yn gweithredu’r Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident yng Nghaerdydd, yn dargyfeirio dros 350,000 tunnell o wastraff nad ellir ei ailgylchu o safleoedd tirlenwi ac yn cynhyrchu 250GWh o drydan ar gyfer y grid cenedlaethol – digon i ddarparu pŵer ar gyfer tua 64,488 o gartrefi.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd Cyngor Caerdydd:

“Ar hyn o bryd, mae pob math o wastraff – ac eithrio gwastraff gardd – yn cael eu casglu bob wythnos mewn un cerbyd ac mae’r gwastraff hwn yn mynd i’r Cyfleuster Adfer Ynni ac yn cael ei drin yno.  

Mae’n bwysig pwysleisio mai mesur dros dro yn unig yw hwn, un a roddwyd ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnal gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd ar draws y ddinas gan gefnogi iechyd a llesiant y gweithlu a thrigolion yn ystod y cyfyngiadau symud.

Nid yw’r Cyfleuster Adfer Ynni yn gallu prosesu gwastraff gwyrdd o’r ardd, gan ei fod yn achosi anawsterau gweithredol sylweddol ar gyfer ein contractwr. Dyna pam rydym yn gofyn i drigolion storio gwastraff gardd yn eu gerddi tan fod yr argyfwng drosodd. Rhowch eich gwastraff bwyd a hylendid yn eich biniau mawr du ac os ydych chi’n byw mewn ardal gyda bagiau coch streipiog, dylech barhau i ddefnyddio eich cadis bwyd brown ar gyfer gwastraff bwyd.

Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw cael gwared â gwastraff o strydoedd y ddinas cyn gynted â phosib ac mewn modd mor ddiogel â phosib. Rydym yn gorfod gwneud hyn gyda llai o adnoddau oherwydd argyfwng Covid-19 a’r cymorth ychwanegol rydym yn ei roi i’r GIG. Ein neges i’r holl drigolion yw i gadw ati i ailgylchu eich gwastraff yn y bagiau gwyrdd a ddarperir gan ei fod yn ein helpu ni, eich cymdogion a’r ddinas.”

Inksplott