Uncategorised

LANSIO MUDIAD NEWYDD I DDILEU SBWRIEL A GWASTRAFF AR DRAWS CYMRU

Mae un o elusennau amgylcheddol mwyaf blaenllaw Cymru wedi lansio ei menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.

Nod Caru Cymru, o dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus mewn partneriaeth â phob Awdurdod Lleol yng Nghymru, yw ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.  Mae’r elusen yn galw ar bobl i gymryd cyfrifoldeb am y sbwriel a’r gwastraff y maent yn ei greu mewn ymgyrch i greu Cymru lanach, fwy diogel.

Er bod Cadwch Gymru’n Daclus yn adnabyddus am weithio gyda byddin o wirfoddolwyr i godi sbwriel, bydd mudiad newydd yr elusen nid yn unig yn canolbwyntio ar lanhau, ond atal sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf.  Y weledigaeth ar gyfer Caru Cymru yw y bydd yn dod yn naturiol i bobl wneud y peth iawn, o fynd â sbwriel gartref a glanhau ar ôl eich ci, ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio. 

Gan siarad am yr ymgyrch, dywedodd Lesley Jones, prif weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae gan bob person yng Nghymru rhan i’w chwarae yn dileu sbwriel a gwastraff sydd yn gallu achosi cymaint o niwed i’n cymunedau ac i’n hamgylchedd naturiol.  Rwy’n falch o fod yn rhan o fenter sydd yn dod â phobl ynghyd, ac yn darparu’r offer, yr arloesedd a’r cymorth sydd ei angen i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

“Nid yw Caru Cymru yn glwb dethol – gall pawb ymuno.”

Mae sbwriel yn cael effaith sylweddol a phellgyrhaeddol ar gymunedau.  Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi nodi, pan na fydd ardaloedd yn cael gofal, mae’n gwneud i bobl deimlo’n anniogel, mae’n effeithio ar gydlyniant cymdeithasol, y teimlad o falchder mewn cymunedau, mae’n llethu twf economaidd a thwristiaeth, ac mae’n dinistrio mwynhad pobl o fyd natur. Mae sbwriel hefyd yn gallu niweidio bywyd gwyllt, mannau gwyrdd, coedwrych, afonydd a chefnforoedd yn sylweddol. 

Fel y grym ysgogol y tu ôl i Caru Cymru, mae pob cyngor yn creu ystod o raglenni a gweithgareddau gan ymateb i anghenion yr ardal, gan alluogi pawb yng Nghymru i gymryd rhan, yn cynnwys:

  • Ymgyrch i atal a chodi ymwybyddiaeth o sbwriel smygu yn Blaenau Gwent
  • Hwb i godi ymwybyddiaeth o sbwriel morol a baw cŵn yn Sir Benfro er mwyn diogelu ei thraethau
  • Bydd canolfannau ailgylchu gwastraff cartref a siopau atgyweirio yn Powys yn cynyddu’r ymdrechion i ailddefnyddio ac atgyweirio

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Mae pobl yng Nghymru eisoes wedi profi eu bod yn gofalu am ein gwlad trwy fabwysiadu arferion ailgylchu pwysig sydd bellach yn golygu mai ni yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu.  Ond mae mwy i’w wneud o hyd, mae’n rhaid i ni fynd y tu hwnt i ailgylchu, a dyma union nod Caru Cymru.  Mae angen i’n hymagwedd tuag at wastraff ymestyn y tu hwnt i’n cartref yn unig ond i’r gofod sydd yn ffurfio’r pentrefi, y trefi a’r dinasoedd yr ydym yn byw ynddynt.  Trwy wneud hynny, gallwn fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff hirdymor yn uniongyrchol a gall pawb gael budd o Gymru lanach.”

Mae lansio Caru Cymru yn nodi dechrau cyfres o brosiectau, o ymgyrchoedd cenedlaethol ar raddfa fawr i brosiectau lleol, llai a grëwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol, tîm newid ymddygiad Prifysgol Caerdydd a phartneriaid eraill.

Yn ystod y misoedd i ddod, bydd Caru Cymru yn rhoi ystod o atebion newydd ac arloesol ar brawf i fynd i’r afael â sbwriel ar ochr y ffordd, sbwriel bwyd brys a sbwriel yn ymwneud â’r môr, i wella ansawdd aer a dileu plastig untro.

Mae pobl ar hyd a lled Cymru’n cael eu hannog i ymuno â’r mudiad newydd a gallant fynd i wefan Cadwch Gymru’n Daclus i ganfod mwy: www.keepwalestidy.cymru/hyb-caru-cymru   

Mae Caru Cymru yn fudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid awdurdodau lleol i ddileu sbwriel a gwastraff. 

Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pobl Cymru i weithredu a gofalu am ein hamgylchedd. Nid yw’n ymwneud â glanhau yn unig; mae hefyd yn ymwneud ag atal sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf. 

Y weledigaeth yw i Caru Cymru gael ei gydblethu i fywyd yng Nghymru, fel ei fod yn naturiol i bawb wneud y peth iawn, o fynd â sbwriel gartref a glanhau ar ôl eich ci, i ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio. 

Wrth i bawb gydweithio i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn greu cymunedau cryfach, iachach a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n planed.

Cyllidwyd Caru Cymru drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen sydd yn gweithio ar draws Cymru i ddiogelu’r amgylchedd nawr ac i’r dyfodol.

www.keepwalestidy.cymru

Inksplott