Newyddion

O Driongl Concrit Distrywiedig i Driongl Concrit Blodeuog!

Yn gynharach eleni, bu Cadwch y Sblot yn Daclus, gyda chefnogaeth Incsblot a Chymdeithas Tai Cymuned Caerdydd, wneud cais am grant Prosiect Bywyd Gwyllt Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus i drawsnewid rhan go llwm o’r Sblot yn hafan bywyd gwyllt a… gallwn gyhoeddi bod ein cais wedi bod yn llwyddiannus!!!!

Dychmygwch…

Mae cornel Ffordd Walker a Stryd Ordell yn y Sblot yn jyngl concrit, heb unrhyw natur o gwbl mwy neu lai ac yn fan problemus o ran ymddygiad gwael a thipio anghyfreithlon. Mae’n fan marw; man di-gariad mewn ardal ddiwydiannol o’r ddinas gyda photensial enfawr am drawsnewidiad ac ymgysylltiad cymunedol.

Mae’r safle ar gyffordd brysur sy’n llawn traffig bob bore a bob nos. Byddai trawsnewid y safle yn hafan ar gyfer natur yn helpu i wella ansawdd yr aer ac yn darparu preswylwyr y cyfadeiladau tai cymdeithasol, Llys Bowley a Llys Selwyn Morris, â man awyr agored gwyrdd, ffyniannus i’w drin a’i fwynhau.

Mae’r safle ar groesfan ac mae nifer o rieni a phlant yn cerdded heibio’r ardal ar eu ffordd i Ysgol Glan Morfa ac ysgol gynradd Moorland. Yn hytrach na slab budr o goncrit gyda sbwriel wedi’i dipio’n anghyfreithlon a thystiolaeth o ddefnyddio cyffuriau, gallent fod yn cerdded trwy ardd blodau gwyllt; yn pigo ffrwythau o goed, yn gweld gwahanol chwilod, adar a phryfed eraill ynghyd â gwahanol flodau’n tyfu wrth i’r tymhorau newid. Ein nod yw ychwanegu gemau traddodiadol megis pôtsh i’r ardal ac ennyn diddordeb unigolion, grwpiau a busnesau lleol yn y trawsnewidiad.

Does dim llawer o leoedd ar gyfer natur yn y Sblot; ni yw un o rannau mwyaf diwydiannol Caerdydd gyda gweithfeydd dur ac ystadau diwydiannol di-ri ar ein stepen drws, er hyn mae gennym gymuned frwdfrydig a ffyniannus sy’n haeddu mwynhau’r byd natur.

Rydym wedi siarad â Chyngor Caerdydd am godi cerrig palmant i greu dôl bywyd gwyllt, gosod planwyr o amgylch ymylon y safle i dyfu blodau a phethau bwytadwy i’w tyfu a chynaeafu gan denantiaid cyfadeiladau tai lleol CCHA a phobl eraill wrth iddynt gerdded heibio, plannu mwy o goed a chynyddu dodrefn stryd i ddatblygu’r safle yn ardal fwy cymdeithasol, cyfeillgar i bobl. Hoffem ychwanegu tai chwilod a chychod gwenyn, trelis o amgylch yr ardal a mwsogl planhigion a fyddai’n amsugno carbon deuocsid ac yn cynyddu lefelau ocsigen mewn man prysur gyda thraffig. 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cyngor Caerdydd wedi llofnodi trwydded ar gyfer y llain o dir gyda Cadwch y Sblot yn Daclus a gallwn fwrw ymlaen gyda’n cynlluniau i drawsnewid y llecyn!

Bydd y prosiect yn cynnig cyfle i drigolion heb ardal werdd eu hun i dyfu a buddio o flodau a chynnyrch bwytadwy; gan ddarparu ardal ar y cyd ar gyfer cymdeithasu a llesiant. Ymhlith y cynlluniau hir dymor mae datblygu rhandir cymunedol ar ochr ogleddol y safle, ar gyfer tenantiaid cyfadeiladau tai cymdeithasol, gan gynnig cyfleoedd i dyfu bwyd ac i wella eu hiechyd.

Bydd plant a rhieni ar eu ffordd i’r ysgolion cynradd lleol yn buddio o well taith i’r ysgol a’r gallu i blant ddysgu am fywyd gwyllt a byd natur.

Dywedodd Sian Edwards, aelod o’r gymuned a Rhiant-Lywodraethwr Ysgol Glan Morfa;

“Fel un o’r nifer o rieni sy’n cerdded fy mhlentyn i’r ysgol, buaswn yn rhoi croeso mawr i brosiect i drawsnewid yr ardal hon nad sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd felly sy’n aml yn llawn sbwriel yn ardal werdd, gymunedol. Byddai nid yn unig yn annog mwy o fioamrywiaeth ac yn meithrin balchder cymunedol a mwynhad o’r safle ar draws y cenedlaethau, ond hefyd yn helpu tuag at leihau allyriadau caron ar hyd ffordd brysur.”

Roedd ein cais llwyddiannus ar gyfer Gardd Bywyd Gwyllt Cadwch Gymru’n Daclus i ‘drawsnewid ardal ddi-gariad yn ardd a ddaw â buddion i’r byd natur a’r gymuned’.

Bydd y pecyn yn cynnwys:

40m2 o laswellt blodau gwyllt

Pum coeden ffrwythau brodorol

Ardal ar gyfer coed a bywyd gwyllt (105 coeden)

Bocsys cynefinoedd a gwestai pryfed

Dwy fainc wedi’u gwneud o blastig a ailgylchwyd (1.2m o led)

Dau wely uchel wedi’u gwneud o drawstiau pren (tua 2.4m x 10m yr un)

Planhigion brodorol, peilliol gan gynnwys llwyni, bylbiau a phlanhigion dringo.

Trelis

Storfa (1.57m x 1.47m)

Amrywiaeth o offer llaw i osod a chynnal gardd

Llyfrau a siartiau ID ar gyfer arolygon bywyd gwyllt.

Oherwydd Covid-19, roedd rhaid i ni ohirio ein cynlluniau i drawsnewid y triongl distrywiedig yn driongl blodeuog, ond rwy’n hapus i ddweud y dylai’r prosiect fod yn ôl ar y trywydd cywir yn fuan ac y bydd yna gyfleoedd i drigolion gael eu dwylo’n fudr trwy gymryd rhan yn y trawsnewidiad (yn ddiogel – byddwn yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol).

Cadwch lygad allan am ragor o wybodaeth. Yn y cyfamser, dyma fi (Lynne), Louise a Peter o KST yn bloeddio hwrê fawr. Dydyn ni methu aros i wneud y Sblot ychydig yn fwy gwyrdd!

ON – mae cronfa Cadwch Gymru’n Daclus ar agor eto am geisiadau (dyddiad cau 31 Gorffennaf) os oes gan unrhyw un arall yng Nghaerdydd ddiddordeb mewn ymgeisio:  https://www.keepwalestidy.cymru/Pages/Site/cy/Category/natur

Dilynwch Cadwch y Sblot yn Daclus ar Facebook i gael y newyddion diweddaraf ar gasgliadau sbwriel cymunedol, casgliadau sbwriel, cyflenwadau bagiau gwyrdd a mwy: https://www.facebook.com/KeepSplottTidy/

Inksplott