Newyddion

Pryd mae pethau’n agor yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r amserlen ddiweddaraf i leddfu cyfyngiadau a osodir yng Nghymru oherwydd pandemig Covid-19.

Darganfyddwch beth sy’n agor a phryd (os yw’r amodau’n caniatáu – sy’n golygu bod cyfradd yr haint a’r trosglwyddiad yn aros yn isel).

Crynodeb:

Dydd Sadwrn 11eg Gorffennaf – llety gwyliau hunangynhwysol.
⛱🏠

Dydd Llun 13eg Gorffennaf – salonau trin gwallt a siopau barbwr, gan gynnwys trinwyr gwallt symudol; tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn yr awyr agored; sinemâu awyr agored; atyniadau ymwelwyr dan do (ond nid atyniadau tanddaearol eto); addoldai.
👩‍🦱👨‍🦱🍻🥂🍷🎬🏛⛪️🕌🕍

Dydd Llun 13eg Gorffennaf – gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau hamdden ac addoli (hyd at 30 o bobl).
⚽️🏈🏀

Dydd Llun 20fed Gorffennaf – bydd meysydd chwarae, canolfannau cymunedol a champfeydd awyr agored yn gallu ailagor yn raddol.
🏃‍♀️🏃‍♂️🤸‍♀️🤸‍♂️⛹️‍♀️⛹️‍♂️💪

Codir cyfyngiadau pellach os yw amodau Covid-19 yng Nghymru yn caniatáu:

Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf – llety i dwristiaid gyda chyfleusterau a rennir, fel safleoedd gwersylla.
🏕⛺️⛱🏘

Dydd Llun 27ain Gorffennaf – gwasanaethau cyswllt agos, gan gynnwys salonau ewinedd a harddwch a busnesau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tylino, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo; sinemâu dan do, amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archif; ailagor y farchnad dai yn llawn.
💄💅🎬🏛

Bydd agoriad lletygarwch dan do yn cael ei ystyried o 3 Awst, os yw’r amodau’n caniatáu.

Gwybodaeth fanylach:

Yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod diweddaraf o’r Rheoliadau Coronafeirws, mae’r Prif Weinidog wedi amlinellu amserlen ar gyfer llacio’r cyfyngiadau’n raddol ar gyfer rhannau mawr o sectorau ymwelwyr, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Cymru.

Mae’n gofyn i’r sector harddwch a gwasanaethau cysylltiad agos eraill, gan gynnwys tatŵyddion a salonau trin ewinedd, ddechrau paratoi i ailagor o’r 27 Gorffennaf ymlaen, os yw’r amgylchiadau’n caniatáu hynny.

Er bod nifer yr achosion o goronafeirws yng Nghymru yn gostwng, nid yw’r clefyd wedi mynd, ac mae gan bawb gyfrifoldeb i gadw pellter cymdeithasol, dilyn arferion hylendid da a pharchu’r lleoedd y maent yn ymweld â nhw.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Gyda’n gilydd rydyn ni’n gwneud cynnydd da wrth atal y feirws rhag lledaenu. Mae oherwydd yr ymdrechion rydyn ni wedi eu gwneud gyda’n gilydd ein bod yn gallu codi’r cyfyngiadau ac ailagor rhagor o’n cymdeithas a’n heconomi.

Fodd bynnag, dyw bygythiad coronafeirws ddim wedi mynd, a dim ond os ydyn ni i gyd yn ymddwyn mewn modd cyfrifol y byddwn ni’n gallu diogelu Cymru. Mae hyn yn golygu parhau i gadw pellter cymdeithasol a meddwl yn ofalus am lle rydyn ni’n mynd a pham.

Bydd newidiadau uniongyrchol yn dod i rym yfory (dydd Sadwrn 11 Gorffennaf) pan fydd llety gwyliau hunangynhwysol yn agor.   

O ddydd Llun ymlaen (13 Gorffennaf) bydd y busnesau canlynol yn gallu agor, yn ddarostyngedig i ddilyn y canllawiau ar ddiogelu rhag y coronafeirws wrth weithredu:

  • Salonau trin gwallt a barbwyr, gan gynnwys trinwyr gwallt symudol.
  • Tafarnau, barrau, bwytai a chaffis awyr agored.
  • Sinemâu awyr agored.
  • Atyniadau i ymwelwyr dan do, ond bydd nifer o atyniadau tanddaearol yn parhau i fod ar gau ar yr adeg hon oherwydd y risgiau uwch sy’n gysylltiedig â’r amgylcheddau hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r atyniadau hyn er mwyn eu hagor mewn modd diogel.
  • Mannau addoli. Caiff arweinwyr ffydd ddechrau ailddechrau gwasanaethau’n raddol pan fyddant yn barod i wneud hynny mewn modd diogel.
  • Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud newidiadau i’r rheoliadau i ganiatáu ymgynulliadau mwy o hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored, dim ond os yw’r rhain yn cael eu rheoli a’u goruchwylio gan unigolyn sy’n gyfrifol am chwaraeon, gweithgareddau hamdden eraill a dosbarthiadau.
  • Bydd hyn yn caniatáu cynnal chwaraeon a gweithgareddau hamdden, megis dosbarthiadau ffitrwydd a dawnsio, yn yr awyr agored, yn ogystal â chydaddoli.

O 20 Gorffennaf ymlaen bydd meysydd chwarae, canolfannau cymunedol a champfeydd awyr agored yn gallu ailagor yn raddol yn ystod yr wythnosau dilynol, pan fydd gwiriadau diogelu wedi cael eu rhoi ar waith. Bydd ailagor canolfannau cymunedol yn helpu awdurdodau lleol i ddarparu cynlluniau chwarae a gofal plant yng ngwyliau’r haf.

Mae’r Prif Weinidog yn galw ar fusnesau a sectorau eraill i ddechrau paratoi i ailagor o 27 Gorffennaf ymlaen:

  • Gwasanaethau cysylltiad agor, gan gynnwys salonau trin ewinedd a pharlyrau harddu a busnesau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tylino, tyllu’r corff, tatŵs, electrolysis neu aciwbigo.
  • Sinemâu dan do, amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.
  • Llety twristiaeth â chyfleusterau a rennir, fel safleoedd gwersylla.
  • Ailagor y farchnad tai yn llawn.

Bydd y penderfyniad terfynol ynghylch ailagor y sectorau hyn yn dibynnu ar amgylchiadau a’r adborth yn dilyn ailagor y rhannau cyntaf o’r diwydiant twristiaeth, atyniadau dan do a’r sector trin gwallt. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Rydyn ni wedi defnyddio ein hyblygrwydd i barhau i ailagor ein heconomi a’n cymdeithas yma yng Nghymru. Rydyn ni hefyd wedi defnyddio rhywfaint o’n hyblygrwydd i alluogi GIG Cymru i ddarparu rhagor o ofal a thriniaeth ar gyfer pobl – gwasanaethau a gafodd eu hatal ym mis Mawrth i alluogi’r gwasanaeth iechyd i ddarparu ar gyfer y coronafeirws.  

Mae ein gallu i barhau i godi’r cyfyngiadau yn dibynnu ar bawb yng Nghymru – mae angen i bawb ein helpu ni drwy ddilyn y rheolau, i gadw lefelau’r coronafeirws mor isel â phosibl.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud newidiadau i’r rheoliadau cadw pellter, i adlewyrchu’r heriau a wynebir gan y sector lletygarwch, y diwydiant harddwch a sectorau eraill lle nad yw’n bosibl cadw pellter o ddau fetr ar bob adeg. 

Yn ôl y gyfraith yng Nghymru, y gofyniad i gadw pellter o ddau fetr fydd y rheol diofyn, gan mai dyma’r ffordd orau o ddiogelu iechyd pobl. Ond pan nad nad yw’n rhesymol cadw pellter o ddau fetr, bydd y rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau roi set o fesurau ychwanegol ar waith i leihau’r risg o’r feirws yn lledaenu, gan gynnwys cymryd camau rhesymol i leihau cysylltiad wyneb i wyneb agos ac i gynnal safonau hylendid da.

Bydd yr adolygiad ffurfiol nesaf o’r rheoliadau’n cael ei gynnal ar 30 Gorffennaf. Mae trafodaethau manwl ynghylch sut y gall y sector lletygarwch dan do weithredu mewn modd sy’n diogelu rhag y coronafeirws yn parhau. Bydd opsiynau yn cael eu hystyried ar gyfer ailagor o 3 Awst ymlaen, os yw’r amgylchiadau’n caniatáu hynny.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn trafod ag awdurdodau lleol a gweithredwyr eraill sut y gall campfeydd, canolfannau hamdden, stiwdios ffitrwydd a phyllau nofio agor yn ddiogel. Mae rhagor o waith yn cael ei wneud ar y risg o goronafeirws mewn pyllau nofio.

Inksplott