Newyddion

Parkrun yn cychwyn yn Nhremorfa

Ddydd Sul diwethaf, bu 93 rhedwr a 15 gwirfoddolwr ymgynnull yn gynnar ar fore gwlyb, hydrefol am ddigwyddiad arbennig; lansiad Parkrun Tremorfa, y cyntaf yn Nwyrain Caerdydd.

Ras 5km wedi’i amseru yw’r parkrun, gyda’r slogan ‘chi yn erbyn y cloc’. Cynhelir y rasys bob fore Sadwrn am 9:00am

Mae ffenomenon y parkrun wedi cynyddu’n enfawr ar draws y DU yn ystod y blynyddoedd diweddar, gyda digwyddiadau poblogaidd mewn rhannau eraill o Gaerdydd, megis Blackweir a Grangemoor yn Grangetown.

Cynhelir parkrun Tremorfa ym Mharc Tremorfa, Clos Hind, Pengam Green, Caerdydd, CF24 2HF (gweler tudalen y llwybr am ragor o fanylion).

Gallwch gymryd rhan am ddim ond cofiwch gofrestru cyn i chi fynd am y tro cyntaf (mae ond angen i chi gofrestru gyda parkrun unwaith).  Peidiwch ag anghofio mynd â chopi printiedig o’ch cod bar (gallwch ofyn am e-bost i’ch atgoffa). Os byddwch yn ei anghofio, ni fyddwch yn cael amser (mwy o wybodaeth yma).

Does dim angen i chi fod yn arbennig o gyflym ac anogir cyfranogwyr i gymryd rhan ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw.

Y Cynghorydd Lleol, Ed Stubbs, arweiniodd yr ymgyrch i ddod â parkrun i Dremorfa. Roedd Ed a phum cyfarwyddwr eraill y ras, Carol James, Kirsty Palmer, Nia Lloyd a Tim Dawe, yn hynod falch gyda nifer y rhedwyr a gwirfoddolwyr a ddaeth i’r digwyddiad cyntaf.

Dywedodd Ed:

“Mae 10 mis wedi mynd heibio rhwng awgrymu’r parc a’r digwyddiad cyntaf heddiw ac mae llawer o waith caled wedi cael ei wneud i gyrraedd y pwynt hwn. Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal y parkrun cyntaf yn Nwyrain Caerdydd a gobeithiwn y bydd pobl yn parhau i ymuno â ni. Diolch yn fawr i lysgennad y parkrun Stephen Wood, sydd wedi rhoi llawer o gymorth i ni.”

Mae aelodau Grŵp Cymunedol Parc Tremorfa hefyd yn hapus bod parkrun wedi cychwyn yn ein hardal ni, gan bostio ar eu tudalen Facebook:

“Edrychwn ymlaen at weld ymwelwyr o bob rhan o Gaerdydd a thu hwnt yn ymweld â’n parc!”

Mae parkrun Tremorfa eich angen chi!

Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol ar gyfer dyfodol parkrun Tremorfa ac mae angen mwy er mwyn sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad bob wythnos. Esboniodd y Cynghorydd Ed Stubbs:

“Digwyddiad am ddim wedi’i staffio’n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr yw parkrun. Er mwyn i’r digwyddiad hwn lwyddo a thyfu, rydym yn gofyn i bobl wirfoddoli i helpu. Os gallwch chi helpu, anfonwch e-bost atom yn tremorfa@parkrun.com.”

Gallai’r gwirfoddolwyr fod yn trefnu’r llinell orffen, yn gweithredu’r amserydd neu’n sganio codau bar y rhedwyr gyda darllenwyr codau bar syml. Mae’r sawl sy’n gwirfoddoli am y tro cyntaf fel arfer yn gwneud rôl stiwardio, er mwyn iddyn nhw gael teimlad o sut mae’r parkrun yn gweithredu. Nid ydym byth yn gofyn i rywun wneud tasg nad ydyn nhw’n gyfforddus yn gwneud.

Gallwch ddarganfod mwy am fod yn un o wirfoddolwyr parkrun Tremorfa yma.

Ymunwch yn yr hwyl!

Neges i gloi gan y tîm y tu ôl i parkrun Tremorfa:

“Bob wythnos rydym yn mynd am baned ar ôl y parkrun yn Tesco Extra, Pengam Green – mae croeso i chi ymuno â ni! Mae hefyd gennym y bisgedi parkrun gorau yn y byd!”