Dan Sylw

Rhybydd Tywydd Coch – diweddariad gan Cyngor Caerdydd

Rhybudd Coch gan y Swyddfa Dywydd yn sgil Storm Eunice – Yr effaith ar Wasanaethau Cyngor Caerdydd a Chynllunio a Pharatoi

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Coch am Wynt o 7am tan hanner dydd ar ddydd Gwener 18 Chwefror sy’n berthnasol i ardaloedd arfordirol de-orllewin y Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Caerdydd.

Oherwydd difrifoldeb y storm, mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am falurion yn cael eu codi i’r awyr gan y gwynt a all beryglu bywyd; difrod i adeiladau; tarfu ar drafnidiaeth; coed wedi cwympo yn debygol; toriadau pŵer; a thonnau mawr ar y glannau.

Cynghorir y cyhoedd i ystyried a yw teithiau’n angenrheidiol ac i baratoi. Er mwyn helpu i ddiogelu’r cyhoedd a’n gweithlu, a cheisio sicrhau nad yw Storm Eunice yn achosi gormod o darfu, mae trefniadau rheoli argyfwng Cyngor Caerdydd wedi’u rhoi ar waith, ac mae’r newidiadau canlynol wedi’u gwneud i wasanaethau ar gyfer yfory. Mae cynlluniau ar waith hefyd er mwyn bod yn barod i ymateb i’r tarfu a ragwelir.Rhoddir diweddariadau pellach yn ôl yr angen.

Newidiadau i Wasanaethau

Ysgolion – Bydd pob ysgol yng Nghaerdydd ar gau Ddydd Gwener 18 Chwefror oherwydd y tarfu a ragwelir ar drafnidiaeth a’r rhybudd o ddifrod posibl i adeiladau.

Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu – Mae casgliadau dydd Gwener 18 Chwefror wedi’u hatal, gyda chasgliadau gwastraff cyffredinol a gwastraff bwyd yn cael eu cynnal yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt Ddydd Sadwrn hyd at Ddydd Llun. Gofynnir i drigolion gyflwyno eu hailgylchu Ddydd Gwener nesaf sef 25 Chwefror.Er mwyn atal malurion rhag cael eu codi gan y gwynt, ni ddylid cyflwyno unrhyw eitemau i’w casglu yfory.

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref – Bydd canolfannau Ffordd Lamby a Chlos Bessemer ar gau Ddydd Gwener 18 Chwefror. Gall trigolion sydd wedi trefnu mynd i’r canolfannau ar y diwrnod hwnnw fynd iddynt Ddydd Sadwrn a Dydd Sul yn lle hynny.

Casgliadau Eitemau Swmpus – Ni chaiff eitemau swmpus eu casglu. Gofynnir i drigolion sydd wedi trefnu casgliad Ddydd Gwener 18 Chwefror gyflwyno eu heitemau swmpus i’w casglu ar ôl i Storm Eunice gilio. Bydd y tîm yn trefnu i’w casglu dros yr wythnos nesaf.Er mwyn atal malurion rhag cael eu codi gan y gwynt, ni ddylid cyflwyno unrhyw eitemau i’w casglu yfory.

Cynllunio a Pharatoi

Priffyrdd – Mae timau wrth gefn i ddelio â galwadau brys yn ymwneud â chau ffyrdd ac unrhyw lifogydd posibl.

Coed wedi Cwympo – Mae’r staff wedi’u paratoi ac maent wrth gefn yn barod er mwyn ymateb i alwadau i glirio coed sydd wedi cwympo.

Glanhau Strydoedd – Mae Gwasanaethau Glanhau Cyngor Caerdydd yn barod er mwyn ymateb ac i weithredu lle bo angen yn rhan o unrhyw waith glanhau ar ôl i Storm Eunice ddod i ben.

Difrod i Adeiladau’r Cyngor – Bydd contractwyr ar alwad dros y penwythnos er mwyn ymateb i unrhyw ddifrod i adeiladau’r Cyngor.

Y Post Brenhinol yn atal gwasanaeth

Aeth Postmon Sblot, Ryan Davenport, at Twitter i roi gwybod i drigolion na fyddai post ddydd Gwener oherwydd y rhybudd tywydd:

Pobl Sblot, Mae @RoyalMail wedi penderfynu atal danfoniadau am 1 diwrnod yfory oherwydd y rhybudd Coch am wyntoedd hyd at 100mya, os ydych yn disgwyl unrhyw barseli neu lythyrau byddant yn cael eu danfon ddydd Sadwrn. Arhoswch yn ddiogel

Rhifau defnyddiol:

Dim electric? Galwch 105

Dwr Cymru: 0800 052 0130

Emergency Nwy 0800 111 999

Natural Resources Wales 0300 065 3000

Cyngor Caerdydd 029 2087 2087

Inksplott