Newyddion

Siop Elusen newydd Ymchwil Canser wedi agor ar Ffordd Casnewydd

Bydd y sawl ohonoch sy’n hoff o fargen yn falch o glywed bod siop newydd Ymchwil Canser wedi agor ar Ffordd Casnewydd.

Agorodd yr elusen ei siop newydd yng Nghaerdydd ar 21 Chwefror ac mae’n agos at siop Argos ym Mharc Masnach City Link ar Ffordd Casnewydd.

Ar ben gwerthu eitemau am brisiau gostyngedig i godi arian ar gyfer achos gwych, mae’r siop lawer mwy na siopau elusennol y stryd fawr a gallwch siarad â nyrs yn Ystafelloedd Ymgysylltiad yr elusen.

Pa eitemau allaf eu rhoddi?

  • Dillad dynion, menywod a phlant
  • Ategolion gan gynnwys esgidiau, beltiau, bagiau llaw a gemwaith
  • Nwyddau cartref o ansawdd da – unrhyw beth o glustogau i grochenwaith
  • Dodrefn
  • Llieiniau
  • Llyfrau, CDs a DVDs
  • Ffonau symudol a hen getris argraffwyr
  • Nwyddau trydanol

Pa eitemau na allaf eu rhoddi?

  • Nwyddau gwyn megis oergelloedd a pheiriannau golchi
  • Eitemau wedi’u difrodi neu wedi’u torri

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os ydych am gael gwared ar y rhain.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf trwy ddilyn y siop ar Twitter ar @CRUK_Cardiff.

Mae’r siop elusennol hefyd yn edrych am wirfoddolwyr. Gallwch ddarllen mwy yma: https://www.cancerresearchuk.org/get-involved/find-a-shop/cardiff-superstore-opening-21st-february 

Inksplott