Newyddion

Defnyddiwch Ap Caerdydd Gov i roi gwybod i’r Cyngor am dipio anghyfreithlon (ymhlith pethau eraill!)

Mae gan breswylwyr Caerdydd dull newydd o gysylltu’n ddigidol â’r cyngor yn dilyn lansiad ap ‘Caerdydd Gov’.

Mae ap symudol am ddim, sydd ar gael ar Google Play Store a’r Apple Store yn eich atgoffa pan mae’n bryd rhoi’r ailgylchu a’r sbwriel allan i’w gasglu.

Mae technoleg geotagio yn golygu bod preswylwyr hefyd yn gallu defnyddio’r ap i roi gwybod i’r cyngor am union leoliad tipio anghyfreithlon – y cwbl sy’n rhaid i chi wneud yw tynnu llun.

Mae’r ap hefyd yn galluogi preswylwyr i wirio eu cyfrif y Dreth Gyngor a bydd mwy o wasanaethau a swyddogaethau’n cael eu hychwanegu dros y misoedd nesaf.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver:

“Mwy a mwy y diwrnodau hyn, mae preswylwyr yn disgwyl gallu cael mynediad at ein gwasanaethau yn ddigidol yn yr un modd â’r mynediad digidol sydd ganddynt mewn ardaloedd eraill o’u bywydau. Mae lansiad Ap Caerdydd Gov yn gam tuag at gyflawni’r nod hwnnw ac mae’n darparu modd newydd, mwy clyfar o gysylltu â ni unrhyw bryd.

Rydym wedi ymrwymo i barhau i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau’r cyngor. Mae gwneud hynny yn sgil cyfyngiadau cyllidebol parhaus yn golygu bod cymryd ymagwedd ddigidol, gan wneud y defnydd gorau posib o dechnoleg, yn hanfodol.”

I lawrlwytho’r ap, chwiliwch am ‘Cardiff Gov’ yn Google Play Store neu’r Apple Store.  Os oes angen, gall breswylwyr gael cymorth i lawrlwytho a gosod yr ap trwy ymweld ag un o’r Hybiau lleol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy: #CarDIFFGov


Inksplott