Newyddion

Syniadau sut gallwn ni helpu ein gilydd yn ystod Covid-19

Mae hwn yn gyfnod anodd. Cyfnod brawychus. Cyfnod digynsail yn ein cenhedlaeth. Ond, os edrychwch chi yn ôl i’r gorffennol, mae pobl wedi wynebu rhai heriau enfawr ac wedi eu trechu. Mewn adegau anodd, y peth gorau amdanom yw ein gwydnwch, ein dyfeisgarwch a’n haelioni. Felly, beth am i ni edrych ar sut gallwn ni helpu ein gilydd trwy sefyllfa gyfredol Covid-19.

Dod i adnabod eich cymdogion

Yng Nghymru, mae gennym hanes balch a chryf o gymdogrwydd. Ar strydoedd yn y Sblot, Waunadda, Tremorfa a’r Rhath, mae pobl wedi bod yn benthyg cwpanau o siwgr, yn rhannu bwyd, yn rhawio eira o’r palmant a’r ffyrdd am byth. Ond, nid yw hynny’n golygu ein bod yn ymwybodol o sefyllfa pob un o’n cymdogion. Beth am fynd i gnocio ar ddrws y bobl yn eich stryd nad ydych chi’n eu hadnabod, cyflwynwch eich hun (peidiwch ag ysgwyd llaw neu gofleidio, wrth reswm) a gofynnwch a oes angen unrhyw beth arnyn nhw? Er bod dim modd i ni wneud unrhyw beth am y sefyllfa ar lefel genedlaethol neu fyd-eang, mae pethau y gallwn eu gwneud ar stepen ein drws. Gofynnwch a oes ganddyn nhw gar; ydyn nhw’n gallu mynd i’r siop? A oes ganddyn nhw gyswllt â’r rhyngrwyd; ydyn nhw’n gallu archebu ar-lein? Os nad ydynt yn gallu, beth am bicio i’r siop iddyn nhw; ychwanegwch eu heitemau at eich rhestr siopa, neu beth am wneud archeb ar-lein iddyn nhw. Oes gennych chi lwythi o bapur toiled a bod nhw wedi rhedeg allan? Beth am gynnig rholyn iddyn nhw; mae’n dda helpu eich cymdogion.

Beth am sefydlu grŵp Whatsapp ar gyfer eich stryd er mwyn i gymdogion allu rhoi gwybod yn sydyn os ydynt yn rhedeg yn isel ar eitem benodol ond yn methu mynd i’r siop? Os ydych chi’n mynd i’r siop, beth am ofyn a oes angen unrhyw beth ar unrhyw un. Wrth fynd o ddrws i ddrws, gallwch ofyn i bobl a ydynt eisiau ymuno â’r grŵp. Ond, cofiwch gael cynllun wrth gefn ar gyfer pobl heb ffôn clyfar. Mae’n oes ddigidol, ond nid yw hynny’n golygu bod pawb yn ddigidol. Cadwch y dulliau hen ffasiwn a’r cyffyrddiad personol mewn cof.

Rhannu’n deg

Peidiwch â chronni nwyddau! Dyna’r peth gwaethaf gallwn ni wneud! Os nad ydym yn ildio i’r awydd i storio nwyddau yn ddiangen, bydd digon i bawb. Siaradwch â ffrindiau ac aelodau o’r teulu i’w sicrhau bod dim angen iddyn nhw brynu pob pecyn o basta yn y siop; bydd mwy yn dod i’r siop cyn pen dim.

Siopa’n lleol

Mae busnesau bach annibynnol angen ein cefnogaeth ar adegau fel hyn ac maen nhw hefyd lawer mwy tebygol o gael silffoedd llawn o gymharu â’r archfarchnadoedd sy’n cael eu clirio’n sydyn iawn.  Silffoedd gwag yn Lidl y Sblot? Ewch draw i Ffordd Sblot – mae’r silffoedd yn llawn.

Defnyddiwch grwpiau ar-lein i gydlynu

Mae grŵp ar Facebook eisoes i rannu gwybodaeth a chydlynu gweithgarwch cymunedol yn y Sblot ac Waunadda. Defnyddiwch hwn i gadw mewn cysylltiad ac i weld pwy allai fod angen cymorth. Defnyddiwch hwn i gynnig eich gwasanaethau. Rhowch awgrymiadau a chyngor i annog ysbryd cymunedol: https://www.facebook.com/groups/633534294092813/about/

Defnyddiwch Incsblot

Os ydych chi mewn trafferth, yn isel ar rywbeth, yn teimlo’n bryderus, yn llawn straen neu’n cael panig, anfonwch neges ataf ar Facebook neu Twitter.  Os na allaf helpu, rwy’n siŵr fy mod yn adnabod rhywun bydd yn gallu, gan fod ein rhan o’r byd yn llawn pobl anhygoel â meddylfryd cymunedol sydd wedi bod mewn cysylltiad ag Incsblot ac un adeg neu’i gilydd i weld a allwn ni wneud unrhyw beth i helpu ein gilydd ar hyn o bryd.

Rhannu gwybodaeth

Os oes gennych chi syniad sut gallwn ni helpu ein gilydd, anfonwch neges at Incsblot ac fe ychwanegaf eich syniad at yr erthygl hon, neu ysgrifennwch eich syniad yn y grŵp Facebook a nodwyd uchod. Rydym yn gryfach gyda’n gilydd felly beth am weithio gyda’n gilydd a meddwl am eraill er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn iawn, nid yn unig y bobl rydym yn eu hadnabod.

Dyna’r cwbl am nawr; byddaf yn diweddaru’r dudalen hon wrth i mi dderbyn eich awgrymiadau.

Incsblot xxx

Inksplott