Newyddion

Grŵp Ffrindiau a Chymdogion yn mynd ar-lein i greu cysylltiadau rhwng pobl sy’n teimlo’n unig

Elusen wedi’i leoli yng Nghaerdydd yw grŵp Ffrindiau a Chymdogion neu FAN sy’n dod â phobl o bob oedran a chefndir ynghyd er cyfeillgarwch. Bydd y sawl sy’n mwynhau pobl eraill yn siŵr o gael croeso cynnes os ydynt yn mynychu.

Mewn ymateb i fesurau Covid-19, mae FAN bellach yn symud ar-lein ac yn cynnal cyfarfodydd grŵp ar Zoom a Messenger.

Os ydych chi’n teimlo’n unig yn hunanynysu ac ag awydd cael sgwrs gyda’ch cymdogion o rownd y gornel neu ar ochr arall y byd, cadwch i fyny gyda grwpiau rhith FAN trwy ddilyn y dudalen ar Facebook ac edrych ar y wefan www.thefancharity.orgwww.facebook.com/thefancharity.

Mae grwpiau FAN yn creu ymdeimlad o gymuned ac yn rhwydwaith anhygoel. Maen nhw’n cynnig cyfle da i’r sawl sy’n newydd mewn ardal gwrdd â phobl leol. Mae grwpiau FAN yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y sawl sydd eisiau dysgu Saesneg neu’r sawl sydd eisoes yn siarad yr iaith ond sydd eisiau gwella. Mae croeso i unrhyw un fynychu grŵp FAN a gwneud ffrindiau newydd, os ydych yn lleol neu o ochr arall y byd.

“Felly, beth sy’n digwydd mewn grŵp FAN? Rydym yn dewis pwnc i siarad am. Mae pawb yn cael cyfle i siarad, ond os ydych chi’n teimlo’n swil, does dim rhaid i chi siarad os nad ydych chi eisiau. Dydyn ni ddim yn torri ar draws ac rydym yn gwrando ar y person sy’n siarad. Pan mae pawb wedi siarad, rydym yn cau’r cyfarfod cyn cael sgwrs anffurfiol i ddod i adnabod ein gilydd.”

Nid oes ffi i fynychu grŵp FAN.

Mae grwpiau FAN wedi bod yn rhedeg yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd ac mae wedi ehangu’n ddiweddar i Ben-y-bont ar Ogwr, Y Barri, Abertawe, Casnewydd, Brynbuga a Llanelli.


Mae’r Sblot yn gartref i grŵp sydd wedi bod yn rhedeg am sawl mlynedd yn OASIS ar Ffordd Sblot ac yn fwy diweddar, sefydlwyd grŵp newydd yn Urban Crofters, Stryd Croft, gyda nifer yn mynychu. Bydd FAN yn cynnal cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb unwaith eto yn y lleoliadau uchod pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu codi.

Tan hynny, bydd croeso cynnes yn aros amdanoch gan FAN ar-lein.

Inksplott