Newyddion

Ysgol Glan Morfa yn un o bedair Ysgol y 21ain Ganrif i agor yng Nghaerdydd

Mae pedair ysgol gynradd newydd sbon wedi agor yng Nghaerdydd fel rhan o raglen Ysgolion y 21ain Ganrif y ddinas ac mae ysgol gynradd Gymraeg y Sblot, Ysgol Glan Morfa, yn un ohonynt.

Gyda buddsoddiad gwerth cyfanswm o £22.6m, bu Ysgol Gymraeg Glan Morfa, Gabalfa Primary School, Howardian Primary School ac Ysgol Gymraeg Glan Ceubal oll symud i mewn i’w cartrefi newydd, parhaol, unswydd dros wyliau’r ysgol. 

Maen nhw wedi cael eu hadeiladu fel rhan o Fand A Caerdydd, rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif, gwerth cyfanswm o £164m ac wedi’u hariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:

“Rwy’n hynod falch o weld y pedair ysgol gynradd yma yn agor, gan ddarparu’r plant â chyfleusterau ardderchog ac awyrgylch dysgu addas ar gyfer y 21ain Ganrif. Mae Gabalfa, Howardian, Glan Ceubal a Glan Morfa wedi cael eu hariannu gan y cyngor a Llywodraeth Cymru dan ein rhaglen £164m ‘Band A’ Ysgolion y 21ain Ganrif.

“Trwy ein Huchelgais Prifddinas, rydym wedi gwneud ymrwymiad clir i fuddsoddi mewn gwella ac ehangu ein hysgolion. Mae agor y pedair ysgol gynradd newydd y tymor hwn yn esiampl glir arall ohonom yn gwneud hynny, gyda mwy dal i ddod.”

Bydd dwy ysgol newydd arall yn agor yn ystod y flwyddyn ysgol. Disgwylir i Ysgol Gymraeg Hamadryad agor yn Butetown ar ôl Nadolig, tra mai’r bwriad yw y bydd Cardiff West Community High School yn symud i’w chartref newydd yng Nghaerau yn ystod gwyliau’r Pasg yn y gwanwyn.

Cyhoeddwyd cam nesaf rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif gan Gyngor Caerdydd ar ddiwedd y llynedd. Gyda chyfanswm o £284m, mae Band B yn cynrychioli’r buddsoddiad untro mwyaf yn ysgolion Caerdydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry:

“Y buddsoddiad £284m yn ein hysgolion yw’r mwyaf mae Caerdydd erioed wedi’i weld. Bydd yn ein caniatáu i gynyddu’r momentwm rydym wedi’i sefydlu trwy’r amrediad cyffrous o ysgolion newydd rydym wedi eu cyflwyno gyda Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diweddar, a pharhau i greu ysgolion ysbrydoledig, cynaliadwy, sy’n ffocysu ar y gymuned lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cyflawni eu potensial.

“Bydd ein cylch nesaf o fuddsoddiad nid yn unig yn ein caniatáu i adnewyddu ein hysgolion, gan ddisodli’r sawl sy’n cyrraedd diwedd eu hoes weithredol, ond bydd hefyd yn ein caniatáu i ddarparu mwy o leoedd ysgol ar draws yr holl sectorau – cynradd, uwchradd, anghenion dysgu ychwanegol, cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg – gan greu’r capasiti ychwanegol a fydd ei angen os yw poblogaeth Caerdydd yn parhau i dyfu.”

Y manylion: Y pedair ysgol gynradd a agorodd y tymor hwn

Ysgol Gymraeg Glan Morfa, Y Sblot

Wedi’i leoli ar Ffordd Lewis yn y Sblot, mae’r gan yr Ysgol Gymraeg Glan Morfa newydd a gostiodd £7.8m le ar gyfer hyd at 420 o ddisgyblion, ar draws dau ddosbarth y flwyddyn, o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6, ynghyd â darparu 80 lle rhan amser yn y feithrinfa.

Symudodd Ysgol Glan Morfa o’i leoliad blaenorol ar Ffordd Moorland gerllaw dros yr haf.

Dywedodd y pennaeth, Mr Meilir Tomos: “Hoffwn ddiolch i Morgan Sindall a Chyngor Caerdydd am roi cartref newydd ffantastig yma i ni yng nghanol y Sblot. Mae’r adeilad hwn yn cynrychioli’r twf a’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhan hon o’r ddinas ac rydw i a fy staff yn falch iawn o fod yn rhan o’r oes ragorol newydd hon. Mae’r plant wrth eu boddau gyda’r adeilad hwn gan ei fod yn rhoi mwy o gyfleoedd addysgol iddynt a dyfodol mwy llwyddiannus.”

Gabalfa Primary School ac Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, Gogledd Llandaf

Gyda chost o £8.2m, mae’r ysgol newydd hon yn darparu llety ar gyfer Gabalfa Primary School ac Ysgol Glan Ceubal, gan ddefnyddio dyluniad clyfar i rannu’r lleoliad.

Mae gan y ddwy ysgol un dosbarth ar gyfer pob oedran gyda lle ar gyfer hyd at 210 o ddisgyblion, o’r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6, yn ogystal â meithrinfa.

Adeiladwyd yr ysgolion newydd ar dir rhwng safleoedd blaenorol Gabalfa Primary ac Ysgol Glan Ceubal, ar Ffordd Colwill, Gogledd Llandaf.

Mewn cyd-ddatganiad, dywedodd Pennaeth Gabalfa Primary School, Mrs Carrie Jenkins a Phennaeth Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, Mrs Lisa Mead: “Mae wedi bod yn wythnos gyffrous iawn ar gyfer cymunedau’r ddwy ysgol wrth i ni agor drysau ein man cyd-ddysgu, arloesol, sy’n ffocysu ar y gymuned, am y tro cyntaf. Roedd y disgyblion a’r rhieni yn falch iawn gyda dyluniad ac awyrgylch yr adeilad. Roeddent yn arbennig o hapus gyda llif a natur golau a llawn awel yr amryw fannau dysgu.”

Howardian Primary School, Pen-y-lan

Mae’r prosiect £6.6m wedi creu cartref newydd ar gyfer Howardian Primary School, nesaf at ei leoliad dros dro blaenorol ar Ffordd Hammond ym Mhen-y-lan.

Mae lle ar gyfer 420 o ddisgyblion, mewn dau ddosbarth ym mhob blwyddyn, o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6, ynghyd â 48 lle yn y feithrinfa.

Dywedodd y pennaeth, Dr Helen Hoyle: “Mae’r plant yn hoffi eu hadeilad newydd yn fawr iawn; roedden nhw’n sgipio i mewn i’w hystafelloedd dosbarth newydd yn llawn cyffro ar y diwrnod cyntaf. Maen nhw’n edrych ymlaen yn benodol at ddefnyddio ein hardal gemau aml-ddefnydd, yr ystafell ddosbarth awyr agored newydd wedi’i wneud o bren a’r ardal benodol yn yr iard chwarae ar gyfer sgwteri.  Mae’r staff hefyd yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r ardaloedd dysgu ac addysgu yr oeddent yn rhan o’u dylunio. Mae dysgu yn yr awyr agored yn weithgaredd poblogaidd yn Howardian ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r tir o amgylch yr ysgol fel estyniad i’r ystafell ddosbarth.”

Inksplott