Newyddion

Dydych chi byth rhy ifanc ar gyfer pêl-droed, fel mae’r Pengam Patriots yn profi!

Mae grŵp o wirfoddolwyr yn y Sblot yn rhedeg clwb pêl-droed ar gyfer plant 3-5 mlwydd oed, gan brofi bod neb yn rhy ifanc i ddysgu sgiliau newydd!

Incsblot: Helo Pengam Patriots FC, diolch am gytuno i wneud cyfweliad ar gyfer Incsblot. Allwch chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi a’ch grŵp?

Pengam Patriots FC: Ni yw Pengam Patriots FC. Sefydlwyd y grŵp ym mis Mehefin 2018 ar gyfer tymor 2018/19. Mae gennym dîm iau dan 14 ar hyn o bryd yn Adran C Cynghrair Caerdydd a’r Rhanbarth. Mae hefyd gennym adran i blant bach sef Pengam Patriots sy’n cynnwys tua 20 o blant, lle rydym yn annog plant 3-5 mlwydd oed i ddysgu sgiliau pêl-droed sylfaenol.

IncsblotSut gychwynnodd y grŵp? Allwch chi ddweud ychydig wrthym am hanes eich grŵp a sut daethoch chi i fod yn rhan ohono?

Pengam Patriots FC: Roedd y tîm dan 14 gyda chlwb arall yn barod ac mae mwyafrif y tîm wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd ers ro’n nhw’n 9. Penderfynom symud i ffwrdd a sefydlu ein clwb ein hunain.

IncsblotA pham fod y grŵp yn y Sblot?

Pengam Patriots FC: Mae’r tîm wedi bod yn y Sblot erioed ac yn defnyddio Parc Sblot fel ein car cartref a chlwb cartref ar Ffordd Seawall.

IncsblotBeth yw eich stori orau ers sefydlu’r grŵp?

Pengam Patriots FC: Dyma ein tymor cyntaf fel clwb newydd ac fe enillom ein cynghrair. Rydym wedi chwarae 20 gêm y tymor hwn, gan ennill yr 20 i gyd a sgorio 233 gôl ac ildio ond 22. Mae’r holl sgwad, gan gynnwys hyfforddwyr, wedi gweithio’n hynod galed trwy gydol y tymor i gyd. Mae eu hagwedd a’u penderfyniad wedi bod heb eu hail o’r cychwyn i’r diwedd. Mae’r cyswllt rhyngddyn nhw ar ac i ffwrdd o’r cae wedi cael effaith enfawr ar eu llwyddiant y tymor hwn. Mae’r gefnogaeth rydym wedi cael o’n clwb, rhieni a theuluoedd y chwaraewyr ynghyd â’r gymuned leol wedi bod yn anhygoel. Yn gwbl syfrdanol. Methu credu ein lwc.

IncsblotDywedwch gyfrinach wrthym am y Sblot neu rywbeth nad ydym yn ei wybod am yr ardal.

Pengam Patriots FC: Mae’r Sblot yn gymuned gref, falch, lafurus sydd wedi cefnogi’r Patriots 100%.

IncsblotUnrhyw gynlluniau neu ddigwyddiadau cyffrous ar y gorwel?

Pengam Patriots FC: Bydd y tîm dan 14 yn camu i mewn i Adran B tymor nesaf ac yn edrych i barhau gyda’u gwaith caled ac ymroddiad er mwyn sicrhau llwyddiant. Parhau gyda’r hyfforddiant ac i ddatblygu eu sgiliau a’u brwdfrydedd am y gêm. Hefyd yn gobeithio ehangu ein grŵp iau trwy ychwanegu rhai timau llai mewn cynghrair fechan.

IncsblotSut gall pobl ddysgu mwy? A oes gennych chi wefan, Facebook, Twitter ac ati?

Pengam Patriots FC: Mae gennym dudalen weithgar ar Facebook ar gyfer y ddwy adran,

Pengam patriots fc

Manylion cyswllt pengampatriots18@outlook.com

Clwb cartref – Clwb Cymdeithasol Pengam Moors (Y Sied), Ffordd Seawall.

IncsblotMae hynny’n wych – diolch yn fawr am y cyfweliad!

Inksplott