Newyddion

Beth i wneud os ydych chi’n chwilio neu’n colli ci? Mae gan wefan Cartref Cŵn newydd Caerdydd yr atebion

Yn dilyn lansiad gwefan newydd Cartref Cŵn Caerdydd, gallwch ymweld â hwy ar-lein.

Mae’r wefan https://www.cardiffdogshome.co.uk/cy/ yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar bopeth o ficrosglodynnu i beth i wneud os byddwch yn colli ci (neu’n chwilio am un).

Gellir hefyd gweld yr holl gŵn sydd ar gael i’w hail-gartrefi ar y wefan.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:

“Mwy a mwy, mae preswylwyr yn disgwyl gallu cael mynediad at ein gwasanaethau’n ddigidol a bydd y wefan newydd hon yn gwneud hi’n haws i unrhyw un sy’n chwilio am y ci perffaith iddyn nhw gychwyn y daith honno ar-lein.”

“Fel cenedl rydym yn hoff iawn o anifeiliaid, felly trist oedd clywed sut roedd rhai o’r cŵn a ddaethpwyd â hwy i Gartref Cŵn Caerdydd wedi cael eu trin – mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu dod o hyd i gartref go iawn i’r cŵn yn ein cartref yn beth da.”

Ymhlith y gwasanaethau eraill sydd ar gael ar y wefan newydd, mae:

  • Rhoi gwybod os ydych chi wedi colli neu chwilio ci.
  • Gwybodaeth yn esbonio beth i’w wneud os ydych chi’n chwilio ci.
  • Gwybodaeth ar wasanaethau microsglodynnu am ddim.
  • Gwybodaeth ar ysbaddu ci.
  • Lluniau o gŵn a ddaeth i’r cartref yn ddiweddar.

Os hoffech chi fod yn rhan o waith Cartref Cŵn Caerdydd, mae gwybodaeth hefyd am gyfleoedd gwirfoddoli ar y wefan, gan gynnwys y siawns i ddod i adnabod rhai o’r cŵn trwy wirfoddoli i gerdded ci. 

Inksplott