Newyddion

A all sticeri pinc atal ailgylchu anghywir yn y Sblot?

Ydych chi’n gwybod beth sy’n mynd i mewn i’r bag gwyrdd? Ymddengys na fod pawb yng Nghaerdydd yn gwybod gan fod clytiau brwnt, dillad a bwyd yn aml yn cael eu gweld mewn bagiau ailgylchu.

Dengys ffigurau a gyhoeddwyd gan y cyngor bod 20% o wastraff sy’n cael ei roi mewn bagiau gwyrdd ailgylchu yn cynnwys deunyddiau anghywir sy’n rhwystr i’r broses ailgylchu. Y prif droseddwyr yw clytiau brwnt, dillad, pecynnu a gwastraff bwyd.

Yn fuan, bydd trigolion Caerdydd yn derbyn mwy o gyngor i ailgylchu’n gywir dan gynllun newydd sy’n defnyddio sticeri pinc i roi gwybod iddynt os ydynt yn taflu gwastraff halogedig sy’n anaddas ar gyfer ailgylchu.

Gobeithir y bydd y cynllun newydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd yr ailgylchu a’r compostio a gesglir wrth ymyl y ffordd gan Gyngor Caerdydd – a fydd yn helpu’r ddinas i ddod yn un o ddinasoedd gorau’r byd ar gyfer ailgylchu.

Mae gwastraff gardd gwyrdd hefyd yn cynnwys deunyddiau anghywir gyda phethau megis caniau dŵr, cardfwrdd, dodrefn gardd a hyd yn oed rhannau o siediau yn cael eu rhoi yn y biniau gwyrdd. Er bod lefelau halogi yn is na 5%, mae’r cyngor yn gobeithio bydd ei gynllun newydd yn rhoi hwb i ffigurau ailgylchu ar draws y ddinas.

Bydd yr ymgyrch newydd yn gweld sticeri pinc llachar yn cael eu gosod ar fagiau neu finiau ailgylchu a gwastraff gardd i roi gwybod i drigolion eu bod yn cynnwys eitemau anghywir. Os roddir sticer binc ar gynhwysydd, bydd rhaid i drigolion fynd â’u gwastraff yn ôl i mewn i’w cartref i dynnu’r eitemau anghywir allan cyn iddynt roi’r gwastraff allan eto ar y diwrnod casglu nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd Cyngor Caerdydd:

“Os yw pobl yn gweld pinc, rydym eisiau iddynt stopio a meddwl. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn casglu nwyddau sych, ailgylchadwy mewn bagiau gwyrdd i wneud hi mor hawdd â phosib i drigolion ailgylchu eu gwastraff.

“Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn casglu ychydig dros 40,000 tunnell o wastraff wedi’i ailgylchu o strydoedd y ddinas bob blwyddyn, ond mae 7,000 tunnell o’r gwastraff hwn naill ai’n bethau na ellir eu hailgylchu neu mae mor halogedig gyda deunyddiau eraill bod dim modd eu gwahanu i’w hailgylchu.

“O ran y gwastraff sy’n cael ei roi yn y bagiau gwyrdd, y camgymeriadau mwyaf cyffredin yw rhoi gwastraff bwyd, clytiau a thecstilau yn y bagiau hyn. Does dim angen rhoi’r eitemau hyn yn y bagiau ailgylchu gwyrdd gan fod gennym gasgliadau gwastraff bwyd wythnosol ar wahân ynghyd â chasgliad hylendid ar gyfer clytiau. Gallwch hefyd fynd ag eitemau megis tecstilau i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

“Gyda gwastraff gwyrdd o’r ardd, yr unig bethau rydym eu heisiau yw gwair, darnau o goed neu doriadau gwrych. Dyma’r unig bethau y dylid eu rhoi yn y biniau gwyrdd.

“Os welwch chi sticer binc ar eich gwastraff yn y dyfodol, byddwch hefyd yn gweld cyfeiriad ar-lein ar gyfer ein A i Y ailgylchu ar wefan y Cyngor. Yma, byddwch yn gallu gwirio pa ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn ein gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd.

“Rydym hefyd yn gofyn i drigolion olchi eu caniau, tuniau a gwydr cyn eu hailgylchu. Bydd hyn oll yn helpu gwneud Caerdydd yn un o ddinasoedd gorau’r byd ar gyfer ailgylchu ac mae hynny’n rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono.”

Bydd ymgyrch newydd ‘Gweld Pinc, Stopio a meddwl’ yn cynnwys pum cam syml eu dilyn:

Cam 1) os yw’r casglwyr gwastraff yn gweld gwastraff na ellir ei ailgylchu naill ai yn y bagiau gwyrdd neu’r biniau gwyrdd, bydd sticer binc yn cael ei roi ar y cynhwysydd yn cynghori’r preswylydd i weithredu.

Cam 2) os yw hyn yn digwydd eto, bydd sticer arall yn cael ei roi ar y cynhwysydd ac fe anfonir llythyr at y cyfeiriad yn cynghori’r preswylydd ei fod wedi rhoi eitemau anghywir yn eu gwastraff ac yn eu cynghori i weithredu.

Cam 3) os yw hyn yn digwydd am drydydd tro, bydd trydedd sticer yn cael ei roi ar y cynhwysydd ac fe anfonir llythyr ffurfiol i’r preswylydd yn eu cynghori y gallent dderbyn hysbysiad cosb benodedig os ydynt yn cynnwys eitemau halogedig yn yr ailgylchu eto.

Cam 4) os yw hyn yn digwydd eto, bydd pedwaredd sticer yn cael ei roi ar y cynhwysydd gwastraff ac fe gyhoeddir Hysbysiad Adran 46. Llythyr cyfreithiol yw hwn i hysbysu’r preswylydd sut i gyflwyno sbwriel i’w gasglu sy’n esbonio y bydd methiant i gydymffurfio yn arwain at hysbysiad cosb benodedig.

Cam 5) os yw hyn yn digwydd am bumed tro, bydd yn arwain at hysbysiad cosb benodedig o £100. Bydd methiant i gydymffurfio yn arwain at y Cyngor yn mynd i’r mater i’r Llys Ymadon am erlyniad.

Bydd y sticeri pinc yn cyfeirio trigolion am wefan gydag A-Y Ailgylchu er mwyn iddynt allu ymgyfarwyddo â pha eitemau y dylid ei rhoi yn y cynwysyddion a ddarperir.

Os oes angen, bydd tîm addysg y cyngor yn ymweld â rhai cartrefi i helpu preswylwyr ddeall beth maen nhw’n ei wneud yn anghywir.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd Cyngor Caerdydd:

“Nod yr ymgyrch hwn yw addysgu’r cyhoedd am y deunyddiau y gellir eu rhoi yn y bagiau gwyrdd i’w hailgylchu a pha ddeunyddiau dylid eu rhoi naill ai yn y biniau gwyrdd neu mewn bagiau i’w compostio.

“Dros gyfnod treigl o 12-wythnos, os yw preswylydd yn rhoi eitemau anghywir naill ai yn eu bagiau gwyrdd neu eu biniau (neu fagiau) gwyrdd compost ar bum achlysur gwahanol, byddant yn derbyn hysbysiad cosb benodedig o £100.

“Mae’n bwysig pwysleisio bod yr ymgyrch hwn a’r pum cam a amlinellwyd ond yn berthnasol i breswylwyr sy’n rhoi’r eitemau anghywir yn eu hailgylchu a chompostio. Ar gyfer unrhyw droseddau amgylcheddol eraill, megis taflu ysbwriel, tipio anghyfreithlon, gosod posteri’n anghyfreithlon, ac eraill, bydd gorfodaeth gwastraff yn gweithredu fel arfer.

“Peidiwch ag anghofio, er bod rhai eitemau na ellir eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd, gallwn ailgylchu dros 20 o eitemau eraill yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae rhagor o fanylion yma https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx

“Mae’r cynllun yn cael ei redeg yn unol ag Arweiniad Llywodraeth Cymru ar addysg a gorfodaeth gwastraff.”

Os yw preswylydd yn anwybyddu’r sticer binc ac yn gadael eu gwastraff allan ar y stryd, gellir hepgor y cynllun pum cam a gallent wynebu hysbysiad cosb benodedig o £100 ar unwaith.

Mae gwahanu’r gwastraff hwn na ellir ei ailgylchu o ffrydiau ailgylchu’r ddinas yn costio tua £750,000 y flwyddyn i’r ddinas a’r trethdalwr ac mae’n cael effaith negyddol ar berfformiad ailgylchu’r ddinas a allai arwain at gosbau gwerth miliynau o bunnoedd o Lywodraeth Cymru am fethu â chyflawni ein targedau ailgylchu heriol.

Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch newydd yn gwella ansawdd yr ailgylchu a gesglir yn y ddinas, yn cynyddu’r gyfradd ailgylchu ac yn helpu’r ddinas i chwarae ei rhan i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Daeth y cynllun peilot i rym ar 2 Mawrth.

Inksplott