Newyddion

Benthycwch, peidiwch â phrynu! ‘Llyfrgell Pethau’ newydd yn lansio yn y Sblot

Mae prosiect cymunedol newydd, cyffrous yn dod i’r Sblot a fydd yn creu llyfrgell gymunedol o eitemau defnyddiol i drigolion eu benthyg.

Bu Benthyg – y Llyfrgell Pethau gyntaf yn yr ardal – gychwyn yn Nhredelerch ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae ar agor 3 gwaith yr wythnos ac mae’r prosiect bellach yn ychwanegu ail lyfrgell yn y Sblot!

Prosiect cymunedol yw Benthyg a grëwyd i hwyluso dyfodol cynaliadwy ar gyfer cymunedau lleol yn seiliedig ar economi rhannu. Maen nhw’n anelu at wneud hyn trwy:

  • Sefydlu cyfleusterau benthyg hygyrch a chynhwysol yng nghanol y gymuned
  • Galluogi defnydd mwy effeithlon a chynaliadwy o adnoddau unigol a chymunedol i gefnogi llewyrch lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Dod o hyd i ffyrdd arloesol o ennyn diddordeb aelodau anodd eu cyrraedd o’r gymuned
  • Deall ac ymateb i anghenion gwahanol gymunedau a theilwra’r gwasanaethau a ddarperir gan Benthyg i fodloni’r anghenion hynny
  • Grymuso pobl trwy rannu gwybodaeth a sgiliau yn ogystal ag eitemau
  • Cynyddu integreiddiad a chydlyniad cymunedol ac adeiladu cymunedau mwy gwydn trwy ddod â phobl ynghyd

Mae’r sefydliad yn cynnwys tîm o wirfoddolwyr sy’n rhedeg Llyfrgell Pethau yn unol ag amcanion Benthyg; lleihau gwastraff tirlenwi, adeiladu cymunedau cryfach, rhannu sgiliau ac arbed ychydig o arian i bobl ar yr un pryd.

Ymhlith yr eitemau y gallwch eu benthyg ar y platfform benthyg ar-lein mae glanhawyr carpedi, gasebos, offer DIY, offer gwersylla, offer ar gyfer digwyddiadau, pyllau geni, gemau, tocwyr cloddiau ac ati.

Bydd y Llyfrgell Pethau newydd yn y Sblot angen unigolion lleol gydag amrywiaeth o sgiliau; marchnata, cyfryngau cymdeithasol, trefnu, atgyweirio, croesawu, rheoli gwirfoddolwyr, ymgysylltiad â chwsmeriaid, ennyn diddordeb y cyhoedd yn lleol. Os hoffech fod yn rhan o’r prosiect, neu os ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n hoffi gwneud, cysylltwch â thîm Benthyg ar benthyg@rumneyforum.org.uk.

Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect yma: www.benthyg.org

Inksplott