Newyddion

Lansio cynllun safle hyb gwyrdd cymunedol y Sblot

Roedd yn llawn dop ym more coffi cymunedol y Wiwer Werdd dydd Sadwrn diwethaf yn yr Hen Lyfrgell yn y Sblot i ddangos y cynlluniau terfynol i greu hyb cymunedol ar ddarn o dir diffaith yn y Sblot.

Mae’r safle y tu ôl i Stryd y Rheilffordd wedi cael ei roddi i’r grŵp gan Gyngor Caerdydd. Yn dilyn cyfres o ymgynghoriadau cymunedol, datblygwyd cynlluniau i greu man unigryw a fydd yn cynnig lle ar gyfer gweithdai a sesiynau hyfforddi; compostio; lle i dyfu bwyd; cefnogaeth ar gyfer bioamrywiaeth; cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio, digwyddiadau awyr agored a man chwarae gwyllt i blant.

Mae cynllun y safle bellach yn gyflawn

Roedd y safle ychydig mwy cymhleth na’r disgwyl. Wedi’i leoli rhwng y rheilffordd a gerddi cefn pobl, mae nifer o gyfyngiadau ar y pethau y gellir eu hadeiladu, lle gellir lleoli pethau a sut i adeiladu neu osod pethau. Cymhlethwyd y sefyllfa fwy fyth wedi darganfod carthffos ranbarthol fawr o dan ganol y safle – ni ellir adeiladu ar ben hwn – a lleoliad y pŵer a’r dŵr sy’n dod i mewn i’r safle. Yn ffodus, nid oedd y problemau hyn yn peri ofn i’r penseiri a benodwyd, ALT Architecture!

Rhaid hefyd ystyried rhywbeth a elwir yn SuDs. Systemau Draenio Cynaliadwy yw SuDs gyda’r nod o efelychu draenio naturiol ac atal llifogydd trwy sicrhau bod dŵr wyneb yn rhedeg i ffwrdd mor agos i’r ffynhonnell â phosib. Erbyn hyn, mae gofyn bod unrhyw ddatblygiad newydd yn cynnwys systemau draenio sy’n cydymffurfio â Safonau Statudol SuDs Cenedlaethol. Roedd angen cymorth arbenigol Arup gyda chyfrifon SuDs ac adeiladu’r systemau hyn i mewn i’r dyluniad.

Beth sy’n gynwysedig yn y cynllun?

  • Hyb cymunedol – mwy ar hyn isod
  • 8 pod i fusnesau bach – sef y cynwysyddion cludo lliwgar ar y chwith yn y llun uchod.  Bydd y rhain yn cael eu gosod a’u rheoli gan The Bone Yard a fydd yn ychwanegu eu profiad helaeth o greu a rhedeg y math hwn o fannau hyblyg i fusnesau i’r prosiect. Y bwriad yw blaenoriaethu busnesau cymdeithasol, moesegol a chynaliadwy ar y safle.
  • Rhandir bach – mae hyn yn cynnwys gwelyau blodau uchel, tai gwydr a siediau potio
  • Cychod gwenyn – mewn ardal gwenynfeydd â sgrin er mwyn gallu edrych arnynt heb boeni am wenyn yn hedfan yn isel!
  • Man digwyddiadau awyr agored – perffaith ar gyfer ymweliadau ysgolion, marchnadoedd, chwarae a llawer mwy.
  • Toiledau gan gynnwys toiled hygyrch gyda chyfleusterau newid babi
  • Strwythur chwarae – mwy o fanylion yn dod yn fuan. Bydd hefyd digonedd o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau chwarae ar draws y safle
  • Coridor bioamrywiaeth – bydd planhigion trwy gydol y safle yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn helpu gyda draenio cynaliadwy.  Os ydych chi’n gyfarwydd gyda Greener Grangetown yna, mae fel fersiwn llai o hwnnw.
  • Digonedd o le i eistedd ac ymlacio – gan gynnwys teras ar do’r hyb

Sut fydd yr hyn yn edrych?

Mae adeilad yr hyb cymunedol wedi cael ei dylunio gan gwmni lleol, sef Kitsch and Sink. Mae wedi’i wneud o gynwysyddion cludo wedi’u hailgylchu a bydd yr holl ddeunydd arall yn cael ei hailddefnyddio o leoliadau eraill lle bo’n bosib. Fel gweddill y safle, mae wedi cael ei dylunio i fod mor hyblyg â phosib er mwyn i nifer o wahanol grwpiau allu ei defnyddio mewn gwahanol ffyrdd. Lawr grisiau mae yna ardal ar gyfer gweithdai/dosbarthiadau/cyfarfodydd/cymdeithasu gyda chegin fach a ffenestr gweini i’r ardal eistedd awyr agored.  Gellir agor blaen yr adeilad i gysylltu’r hyn sy’n digwydd tu mewn gyda’r hyn sy’n digwydd yn y man digwyddiadau gyferbyn.

Mae grisiau ar y tu allan i’r adeilad yn arwain at deras ar y to sy’n edrych dros y safle ynghyd â man bach, cysurus dan do sy’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd bach, grwpiau neu chwarae gêm fwrdd a chael paned. O dan y grisiau mae yna sinciau awyr agored ar gyfer unrhyw un â dwylo budr ar ôl bod yn garddio yn y rhandir.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Cyflwynwyd y cais cynllunio ddechrau mis Chwefror. Bydd yn cymryd tua wyth wythnos i dderbyn penderfyniad. Mae’r Wiwer Werdd wedi rhannu cyfeiriad y cais er mwyn i drigolion allu cyflwyno sylw i gefnogi’r cais os ydynt yn dymuno.

Wedi iddynt dderbyn caniatâd cynllunio, bydd hyn yn bodloni’r amodau sydd eu hangen ar gyfer y brydles ac i ganiatáu mynediad i’r tir (mae Gwiwer Werdd yn bwriadu trefnu dathliad i nodi’r achlysur).

Mae Tîm y Wiwer Werdd wedi codi £60,000 ar gyfer y prosiect hwn a ddylai fod yn ddigon i gwblhau’r gwaith cychwynnol ar y safle. Nid yw’n ddigon i dalu am gost adeilad yr hyb na strwythurau eraill y safle, digwyddiadau a gweithgareddau ar y safle, neu’r ddwy swydd â thâl i redeg y safle. Yn ystod gwanwyn 2020, bydd Gwiwer Werdd yn parhau i ymgeisio am gyllid grantiau i symud y prosiect ymlaen ac maen nhw’n croesawu unrhyw awgrymiadau ar sut i godi arian ar ben cyllid grantiau – cysylltwch os gallwch chi awgrymu unrhyw ffynhonnell o gyllid neu os hoffech chi godi arian ar gyfer y prosiect.

Sut alla’i gymryd rhan?

Wrth i’r prosiect symud ymlaen, bydd nifer o gyfleoedd i wirfoddoli. Os hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch hannah@green-squirrel.co.uk i fod ar y rhestr bostio ar gyfer gwirfoddolwyr. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech roi gwybod i’r tîm y mathau o bethau sydd o ddiddordeb i chi – gwaith gweinyddol, codi arian, cynnal a chadw, cyfryngau cymdeithasol er enghraifft.

Lledaenwch y gair. Gofynnir ichi rannu cyfeiriad y wefan ynghyd â phostiadau cyfryngau cymdeithasol am y prosiect, dywedwch wrth eich cymdogion a rhannwch y newyddion gydag unrhyw grwpiau cymunedol neu ysgolion rydych yn ymwneud â nhw.

Rhowch wybod i’r Wiwer Werdd os oes gan eich grŵp ddiddordeb mewn defnyddio’r safle pan fydd ar agor, neu os hoffech wybod mwy am y mannau i fusnesau. Yn amlwg, does dim rhaid cytuno i unrhyw beth ar hyn o bryd ond gallai fod werth cael sgwrs i drafod yr opsiynau posib.

Gair olaf gan Becca a Hannah, y deuawd deinamig y tu ôl i’r Wiwer Werdd:

“Cadwch mewn cysylltiad! Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, sylwadau, adborth neu unrhyw beth yr hoffech ei rannu â ni, buasem wrth ein boddau yn clywed gennych!”

I ddarllen y blog llawn ac i ddarganfod mwy, ewch i https://www.railwaystreet.co.uk/post/the-site-plans-are-here