Newyddion

A oes gan y Sblot yr arddangosfa tân gwyllt orau yng Nghaerdydd?

Mae’r Arddangosfa Tân Gwyllt yn Ysgol Uwchradd Willows wedi mynd o nerth i nerth dan ddifyrru miloedd o drigolion y Sblot a Thremorfa gyda choelcerth go iawn ac arddangosfa tân gwyllt anhygoel. Gwell fyth, mae’r holl beth am ddim!

Mae’r noson yn cychwyn trwy gynnau’r goelcerth am 6.30pm cyn yr arddangosfa tân gwyllt anhygoel am hanner awr go dda.

Roedd digwyddiad y llynedd yn well nag erioed gyda rhai pethau’n cael eu hychwanegu at y noson.

Er mwyn ychwanegu ychydig o ddrama at y noson, roedd band pres yn chwarae cerddoriaeth glasurol gan Handel tra roedd yr awyr uwchben Tremorfa yn llawn lliw a synau’r tân gwyllt.

Roedd digon i blesio bwydgarwyr baratoi hefyd gyda thair fan fwyd newydd eleni: roedd fan Oasis, Carl’s Burgers a Pitsa Calabrisella oll yno yn coginio bwydydd blasus i blesio’r blasbwyntiau a chynhesu ymwelwyr.

Roedd digonedd a stondinau a gweithgareddau hefyd gan gynnwys cestyll gwynt a oedd yn boblogaidd iawn gyda’r plant.

Rhaid diolch i Ysgol Willows am drefnu sioe anhygoel ar gyfer y bobl leol, gyda diolch arbennig i’r swyddog allgymorth cymunedol, Natalie Kendrick-Doyle, sy’n trefnu’r digwyddiad bob blwyddyn gan gynnwys sicrhau cefnogaeth gan fusnesau a gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau llwyddiant y digwyddiad.

Ymhlith y cefnogwyr y llynedd roedd Coleg Caerdydd a’r Fro, Celsa, FCHA, United Welsh, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Lolfa Ddysgu yn Ysgol Uwchradd Willows. Heb sôn am grŵp gwirfoddol Ffrindiau Willows a’r cynghorwyr lleol sy’n sefyll wrth y gatiau ac yn stiwardio’r digwyddiad bob blwyddyn. Heb y cefnogwyr anhygoel hyn, ni fyddai’r noson ardderchog hon yn gallu digwydd.

Un o’r cefnogwyr rheolaidd eraill yw Cadwch y Sblot yn Daclus, a oedd yn yr ysgol ar ddydd Sadwrn 2 Tachwedd rhwng 10am a 12 canol dydd i gynnal digwyddiad casglu sbwriel cymunedol a rhoi credydau amser i wirfoddolwyr.

Dywedodd Ysgrifenyddes Cadwch y Sblot yn Daclus, Louise Clarke:

Roedd yn ffantastig gweld yr holl gymuned yn dod ynghyd ar gyfer digwyddiad mor fendigedig gyda gwên ar wyneb pawb o bob oedran! Y tro hwn fe ymunom â grŵp casglu sbwriel Cymuned Parc Tremorfa er mwyn sicrhau bod iardiau’r ysgol yn gwbl glir o hen dân gwyllt a bod yr ardal gyfagos yn lân ac yn daclus ar gyfer y trigolion y bore ar ôl y digwyddiad. Rydym yn ceisio annog pawb i ddod o hyd i fin neu i fynd â’u sbwriel adref gyda nhw i wneud ein gwaith ychydig yn haws. Roedd croeso i unrhyw un ymuno â ni, gan gynnwys disgyblion Ysgol Uwchradd Willows!

Felly os ydych yn edrych am arddangos tân gwyllt ym mis Tachwedd eleni, edrychwch ddim pellach na’n hysgol uwchradd anhygoel, Ysgol Uwchradd Willows!

Beth yw manylion y digwyddiad?

Cynhelir y digwyddiad ar nos Wener gyntaf mis Tachwedd fel rheol yn Ysgol Willows (Ffordd Mercia). Mae’r goelcerth yn cael ei chynnau am 6.30pm gyda’r tân gwyllt yn cychwyn am 7.30pm

I ddarganfod mwy am Lolfa Ddysgu Ysgol Uwchradd Willows, cliciwch yma: https://www.willowshigh.co.uk/learning-lounge/

Inksplott