Newyddion

Cyngor Caerdydd yn cwrdd i drafod dyfodol parciau yn y ddinas

Mae toriadau cyllideb ar y ffordd; a fydd gofyn ar breswylwyr i gyfrannu?

Os ydych chi’n un o’r nifer o bobl yn y Sblot a Thremorfa sy’n mwynhau defnyddio mannau gwyrdd yr ardal, yna fe fyddwch yn awyddus i glywed yr hyn a drafodwyd yng nghyfarfod cabinet diweddar Cyngor Caerdydd.

Trafodwyd sut i ddiogelu parciau a mannau gwyrdd Caerdydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn sgil pwysau cyllidebol ac ariannol enfawr yng nghyfarfod diweddar cabinet y cyngor, gan ystyried argymhellion a wnaed yn adroddiad ‘Ariannu Parciau’ Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant.

Bu’r adroddiad craffu amlinellu nifer o argymhellion, gan gynnwys:

–         Cynyddu incwm trwy fasnacheiddiad, digwyddiadau, nawdd a modelau ariannu amgen.

–         Agor trafodaethau gyda defnyddwyr caeau chwaraeon o ran cymryd cyfrifoldeb dros gynnal a chadw’r caeau gan ddefnyddio model tebyg i un Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

–         Ystyried cynnig safleoedd llai i’w defnyddio ar gyfer digwyddiadau ar draws y ddinas.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:

“Mae’r adroddiad hwn wedi cyflwyno rhai syniadau da iawn ac rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor craffu am eu gwaith caled wrth ei baratoi.

Mae pob un ohonom yn gwerthfawrogi gogoniant naturiol parciau a mannau gwyrdd Caerdydd ac mae’r awdurdod hwn wedi bod yn gweithio’n galed yn sgil toriadau cyllideb enfawr i amddiffyn ac ariannu’r asedau cyhoeddus pwysig hyn. Mae gennym 12 parc Baner Werdd yn y ddinas nawr, mwy nag ar unrhyw adeg arall.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb waith ymroddedig staff ein parciau, ceidwaid y parciau a’n grwpiau amhrisiadwy o ffrindiau. Fodd bynnag, wrth i gyllidebau parhau i ostwng, mae hyd yn oed mwy tebygol y bydd rhaid i ni alw ar ein preswylwyr i’n helpu i gynnal y mannau prydferth hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae pethau mor syml â mynd â’ch ysbwriel adref neu roi unrhyw sbwriel a welwch chi ar lawr yn y bin yn gallu helpu i gadw ein parciau’n wyrdd ac yn brydferth.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys rhai argymhellion gwerth chweil iawn a byddwn yn ymchwilio iddynt. Wrth gwrs, yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae nifer o brosiectau newydd wedi digwydd a gafodd effaith gadarnhaol ar y ffordd o redeg parciau, incwm ar gyfer y Cyngor trwy gynnal digwyddiadau ym Mharc Bute a gwerthu planhigion ym mhlanhigfa’r Cyngor.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth a’r profiadau a enillom o’r prosiectau hyn, rhaid i ni edrych ymlaen nawr at ddatblygu mwy o opsiynau a chyfleoedd er mwyn i’n parciau a mannau gwyrdd a chwenychir ffynnu yn ystod cyfnod o gynildeb ariannol.”

Beth yw eich barn ar sut gall Cyngor Caerdydd gynnal ei barciau gan ystyried toriadau cyllid mawr? Postiwch eich sylwadau isod.

Inksplott