Newyddion

Atafaelu tri cherbyd oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon yn y Sblot fel rhan o Ymgyrch Red Mana

Bu Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru weithio mewn partneriaeth unwaith eto dros y penwythnos i daclo beiciau oddi-ar-y-ffordd yng Nghaerdydd.

Atafaelwyd pedwar cerbyd oddi-ar-y-ffordd fel rhan o’r ymgyrch a bydd pob un o’r beiciau’n cael eu mathru a’u hailgylchu oni bai bod y perchnogion yn hawlio eu cerbyd yn ôl gyda’r gwaith papur a manylion yswiriant cywir.

Atafaelwyd tri cherbyd oddi-ar-y-ffordd o Safle Teithwyr Ffordd Rover gan eu bod wedi cael eu gadael ar Lwybr yr Arfordir. Daethpwyd o hyd i’r cerbydau wedi mynd ar drywydd un o’r beiciau cwad i mewn i’r safle, ble atafaelwyd y cerbyd.

Mewn ardal arall o’r ddinas, gwelwyd beic lludw du Detroit ar gylchfan Coryton gyda heddweision yn stopio ac yn atafaelu dyn 30 mlwydd oed o Ddraenen Pen-Y-Graig a gafodd ei arestion gan Heddlu De Cymru dan amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau. Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad gan aros am ganlyniad dadansoddiad gwaed.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd:

“Mae nifer y bobl mewn cymunedau ar draws y ddinas sy’n cwyno i mi am y defnydd o’r beiciau a’r cwadiau hyn mewn parciau ac ar ffyrdd y ddinas yn cynyddu.

“Dyna pam rydym yn gweithio gyda Heddlu De Cymru ar y mater hwn a bydd ein hymdrechion i geisio cael gwared â chymaint o’r cerbydau hyn â phosib yn parhau.

“Gellir defnyddio’r beiciau hyn ar dir preifat gyda chaniatâd perchennog y tir neu ar unrhyw drac cofrestredig. Ni chaniateir eu gyrru ar dir cyngor gan eu bod yn aml yn cael eu gyrru mewn modd peryglus ac yn gyflym sy’n rhoi pobl eraill sy’n defnyddio’r parc neu’r ffordd mewn perygl.”

Dywedodd PC Martin Baggett o Heddlu De Cymru:

“Rydym yn gwybod bod beiciau oddi-ar-y-ffordd yn bryder i’r gymuned ac mae Ymgyrch Red Mana yn weithred gan yr heddlu i fynd i’r afael â’r broblem.

“Mae defnydd o feiciau oddi-ar-y-ffordd fel hyn nid yn unig yn erbyn rheoliadau traffig ffyrdd ond mae hefyd yn hynod beryglus.

“Rydym yn poeni y gallai rhywun gael ei anafu gan y beiciau hyn sy’n cael ei gyrru’n gyflym a hefyd am y sŵn sy’n effeithio ar ansawdd bywyd preswylwyr.

“Hoffem hefyd atgoffa rhieni o’u cyfrifoldebau o ran eu plant yn defnyddio beiciau oddi-ar-y-ffordd. Y peth olaf mae unrhyw un eisiau yw ein bod yn cael ein galw i ddamwain lle mae rhywun wedi cael ei anafu neu waeth.”

Mae’r Ddeddf Traffig Ffyrdd yn caniatáu’r heddlu i atafaelu cerbydau heb eu hyswirio a’r rhai sy’n cael eu gyrru heb drwydded.

Adran 59 y Ddeddf Traffig Ffyrdd. Mae Adran 59 yn caniatáu’r heddlu i roi rhybudd i yrwyr os oes adroddiadau eu bod wedi bod yn defnyddio eu cerbyd mewn modd sy’n achosi “braw, gofid neu boendod”.

Mae troseddwyr hefyd yn peryglu colli eu cartrefi gan fod ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon yn gallu golygu eu bod yn torri cytundeb eu tenantiaeth gyda’r awdurdod lleol neu gymdeithas tai.

Anogwn y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw wybodaeth gyffredinol yn ymwneud â defnydd anghyfreithlon beiciau oddi-ar-y-ffordd trwy e-bostio opredmana@south-wales.pnn.police.uk 

#opredmana #keepingCardiffsafe @swpcardiff @SWP_Roads

Inksplott