Newyddion

Lladron yn dwyn iPads o ysgolion cynradd yn y Sblot

Cymuned y Sblot yn ddig wrth i ladron dorri i mewn i ysgolion cynradd Moorland a St Albans a dwyn iPads.

Daeth y newyddion ddoe bod Ysgol Gynradd Moorland wedi cael ei thargedu gan ladron yn ystod oriau mân y bore.

Dywedodd Ysgol Gynradd Moorland ar Twitter:

“Mae’n flin gennym adrodd y cafodd 15 iPad eu dwyn o’n hadeilad blynyddoedd cynnar neithiwr. Rydym wedi ein syfrdanu y byddai unrhyw un yn y gymuned hon yn dwyn o’r plant a buasem yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth a allai arwain at ddychwelyd yr eitemau.” 

Bu pobl ar draws Caerdydd fynegi eu sioc a’u dicter am y lladrad ar gyfryngau cymdeithasol.

Bu nifer ofyn am help i ddal y troseddwyr er mwyn ceisio dychwelyd yr offer i’r ysgol. Dywedodd Ali Abdi

ar Twitter:

“Helpwch ddod o hyd i 15 iPad a ddygwyd o Ysgol Gynradd Moorland – bydd yr iPads o amgylch rhywle yn lleol a mwy na thebyg wedi’u hamgryptio felly o ddim defnydd i neb – beth am helpu i gael yr iPads yn ôl ar gyfer y plant”

Fel sy’n arferol yn y Sblot, roedd pobl leol yn awyddus i weld a oedd unrhyw beth y gellid eu gwneud i helpu i godi arian i brynu iPads newydd. Dywedodd Nicki ar Twitter:

“am beth ofnadwy i ddigwydd. Rhaid bod pawb mor drist. A oes modd i ni helpu i godi arian i brynu rhai newydd o gwbl?”

Dywedodd Andy ar Twitter:

“Bore da Ysgol Gynradd Moorland – sut allwn ni helpu? :)”

Rwyf wedi cysylltu ag Ysgol Gynradd Moorland i weld sut gall y gymuned eu helpu nhw, felly fe roddaf wybod i chi yn fuan.

Yn dilyn cyhoeddiad gan Ysgol Gynradd Moorland, dywedodd preswylwyr lleol bod Ysgol Gynradd St Albans hefyd wedi cael ei dargedu yn ystod y nos gyda deg iPad yn cael eu dwyn. Mae Dechrau’n Deg yn Nhremorfa hefyd wedi cael ei effeithio.

Rydym newydd glywed ar Facebook bod hyn hefyd wedi effeithio ar ysgolion a sefydliadau eraill. Dywedodd un preswylydd lleol, Tamsin Osbourne:

“Cronfeydd Nadolig meithrinfeydd Tremorfa wedi cael eu dwyn.” a “Baden, Ysgol Glan Morfa, Dechrau’n Deg, Moorland, Meithrinfa Tremorfa. Ddim yn siŵr am Willows?”

Rwyf am geisio cael mwy o wybodaeth o’r heddlu ac ysgolion/sefydliadau lleol.

Yn y cyfamser, cadwch lygad allan a’ch clustiau ar agor am wybodaeth a rhowch wybod i’r heddlu am unrhyw beth a allai helpu dal y lladron hyn.

Inksplott