Newyddion

YSGOL KARATE SHOTOKAN TRADDODIADOL YN DOD I’R SBLOT YM MIS MEDI

Dysgwch karate o £4 y wers wrth i dojo newydd agor yn Hen Lyfrgell y Sblot ym mis Medi (mae’r dosbarth cyntaf am ddim!).

Cynhelir y dosbarthiadau ar ddydd Mawrth a phob yn ail ddydd Sadwrn.

Mae tystiolaeth bod Karate yn helpu i wella ffitrwydd, hyblygrwydd a hunanhyder, yn lleihau straen ac yn eich dysgu sut i amddiffyn eich hun.

Bydd dosbarthiadau Kokoro Shotokan Karate yn cychwyn yn y Sblot yr hydref hwn ac mae’r hyfforddiant yn addas ar gyfer dynion, menywod a phlant naw oed ac yn hŷn. Gall plant chwech oed neu’n hŷn gymryd rhan os oes rhiant neu warcheidwad hefyd yn cymryd rhan yn y dosbarth hŷn.

Maen nhw hefyd yn cynnig rhaglen Kokoro Tigers, sef un a ddyluniwyd ar gyfer plant o 4/5 (dosbarth derbyn ysgol) i 9 oed.

I ddysgu mwy, ewch i’r wefan yma neu e-bostiwch info@kokoroshotokankarate.co.uk

Inksplott