Newyddion

Beth sy’n digwydd ar Stryd y Rheilffordd…

Ymunwch ag aelodau’r fenter gymdeithasol leol, Wiwer Werdd, ar ddydd Sadwrn, Chwefror 1, i ddarganfod am y cynllun gwych ar gyfer plot o dir y tu ôl i Stryd y Rheilffordd yn Y Sblot.

Mae menter Y Wiwer Werdd yn gweithio i droi darn gwag o dir yn Y Sblot yn hyb gwyrdd, cymunedol gyda man i dyfu, chwarae, dysgu a rhannu.

Mae syniadau ac adborth pobl leol wedi cael eu defnyddio i greu cynllun cyffrous ar gyfer y safle gyda hyb cymunedol, gerddi, mannau i fusnesau bach, a mwy.

I ddysgu mwy, ewch i www.railwaystreet.co.uk