Newyddion

Stryd yn y Sblot ar frig rhestr aros rhaglen Chwarae Stryd

Diolch i un trigolyn lleol, gallai rhan o stryd hiraf y Sblot cael ei chau yn fuan a ddwy awr y mis er mwyn i blant allu chwarae tu allan yn ddiogel.

Yn dilyn dau barti stryd llwyddiannus y llynedd i ddathlu coeden ceirios hyfryd ac i ddod â thrigolion ynghyd, bu Hannah Garcia wneud cais i Raglen Chwarae Stryd Cyngor Caerdydd i gau pen dwyreiniol Stryd y Rheilffordd yn rheolaidd.

Roedd Parti Stryd Hannah i ddathlu’r goeden mor llwyddiannus y daeth coeden ceirios Stryd y Rheilffordd yn bedwerydd yng Ngwobr Coeden y Flwyddyn Cymru 2019 Coed Cadw. Gallwch ddysgu mwy yma

Nawr, mae rhan olaf Stryd y Rheilffordd cyn Ffordd Moorland / pont Ffordd Beresford wedi cyrraedd brig y rhestr aros i ddod yn ‘stryd chwarae’.

Mae nod stryd chwarae yn mynd y tu hwnt i le i blant chwarae – mae hefyd yn ymwneud â helpu cymdogion i ddod i adnabod ei gilydd, gwella’r ymdeimlad o gymuned leol a helpu plant i deimlo ychydig o berchnogaeth dros le maen nhw’n byw, gyda’r gobaith y byddant yn trin yr ardal â pharch wrth iddynt dyfu i fyny.

Hoffai Hannah glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i fod yn stiward yn ystod rhai o’r sesiynau chwarae stryd neu i gynnal gweithgareddau chwarae.

Os hoffech gymryd rhan neu ddod i wybod y newyddion diweddaraf, anfonwch e-bost at Hannah yn hgarcia.cymru@gmail.com

Gallwch weld sut mae stryd chwarae yn gweithio yma: https://playingout.net/

Inksplott